MANYLION
  • Lleoliad: Usk, Monmouthshire, NP15 1XJ
  • Testun: Cyfarwyddwr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 14 Awst, 2024 11:59 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cyfarwyddwr Cyswllt (Cyllid)

Coleg Gwent
Yng Ngholeg Gwent, mae ein cenhadaeth yn syml: NEWID BYWYDAU TRWY DDYSGU. Rydym yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru ac mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae'r swydd hon wedi codi yn dilyn ymddeoliad deiliad presennol y swydd. Mae'r Cyfarwyddwr Cyswllt (Cyllid) yn un o dri Chyfarwyddwr Cyswllt sy'n adrodd i'r Cyfarwyddwr Cyllid, Ystadau a Chyfleusterau ac mae'n gyfrifol am bob maes cynllunio a rheolaeth ariannol ynghyd â chyflogres a chaffael. Mae'r rôl hefyd yn cefnogi'r Cyfarwyddwr wrth baratoi cyfrifon statudol blynyddol, cynllunio cyfalaf ariannol, rheoli archwilio mewnol a rheoli risg.

Fel Cyfarwyddwr Cyswllt (Cyllid), byddwch yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o oruchwylio gweithrediadau ariannol y Coleg, gan gyfrannu at ei strategaeth ariannol, cynllunio ariannol a llwyddiant hirdymor.

Am bwy rydyn ni'n chwilio?

Byddwch yn weithiwr Cyllid proffesiynol (CIPFA/CIMA/FCA/ACA/ACCA) gyda phrofiad o weithredu ar lefel uwch.
Mae profiad eang a helaeth o reolaeth gyllidebol ac ariannol o fewn sefyllfa Addysg Bellach/Sector Cyhoeddus yn ddymunol.
Bydd gennych brofiad o weithio gydag uwch reolwyr a dylanwadu arnynt
Mae dealltwriaeth dda o'r sector Addysg Bellach presennol, gan gynnwys rheolau ariannu a'r amgylchedd, yn ddymunol.
Bydd gennych y cryfder a'r ansawdd o arweinyddiaeth a sgiliau personol sydd eu hangen i ddatblygu ac arwain tîm effeithiol a llawn cymhelliant.
Byddwch yn gallu meddwl yn strategol a darparu atebion arloesol i faterion cymhleth, gyda gallu profedig i afael yn gyflym ac ymateb i amgylchedd cymhleth sy'n newid.
Byddwch yn fasnachol graff wrth ddatblygu a chyflawni amcanion y Coleg.
Yn gyfnewid, mae'r Coleg yn cynnig llawer o fuddion cyflogaeth gan gynnwys hawl gwyliau hael, cynllun pensiwn a llawer o fuddion a chyfleusterau ar y safle.

Byddwch yn ymuno â choleg sy'n uchelgeisiol, yn bwrpasol, yn ymroddedig ac yn gefnogol.

O fewn cyrraedd hawdd i goridor yr M4, mae ein campysau wedi’u lleoli o fewn cyrraedd i rai o gefn gwlad harddaf De Cymru. Os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth, dyma'r lle i wneud hynny.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Sylwch y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manwl.

Yng Ngholeg Gwent rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith sy'n croesawu amrywiaeth ac sy'n hyrwyddo cyfle cyfartal. Ategir hyn gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chedwir ati ar bob cam o’r broses recriwtio.

Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn rhan annatod o'n harferion gwaith o ddydd i ddydd gyda'n dysgwyr, cydweithwyr a phartneriaid.

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sylfaen i'n diwylliant yng Ngholeg Gwent. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch, ac yn gallu dod â'i hun i'r gwaith.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn y Coleg trwy ddileu rhwystrau a chefnogi ein holl staff i gyrraedd eu potensial. Er mwyn sicrhau cynrychiolaeth well yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Benywod, LGBTQ+, anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda’n gilydd rydym yn parhau i adeiladu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond sydd hefyd yn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad ieithoedd heblaw Saesneg a phawb waeth beth fo’u hoedran, priodas a phartneriaeth sifil (yr un rhyw a rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd yn unol â'n polisi Cyfleoedd Cyfartal. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau fel ystafelloedd gweddïo ar gael.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac yn gysylltiedig â'r Grŵp Arwain Pobl Dduon. Yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth gan gymheiriaid mae 6 Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd (Galluogi, Men’s Alliance, Women Together, Cynefin, LGBTQ+ a Race Alliance).

Beth sy'n dod â ni at ein gilydd?

Rydym wedi ymrwymo i adeiladu diwylliant o gynhwysiant sy’n grymuso ein pobl i ffynnu ac sy’n meithrin ymdeimlad o berthyn.

I gefnogi’r Coleg i fod yn gymuned barchus mae gennym grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (ED&I). Clywch ein Hyrwyddwyr ED&I yn siarad am pam eu bod mor angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Dyddiad cau: 14 Awst 2024

Dyddiadau Cyfweld: 28 neu 29 Awst 2024