MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Glannau Dyfrdwy,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £30,620 - £47,331
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £30,620 - £47,331
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Darlithydd Mathemateg
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Rhan-amser 18.87 awr yr wythnos (cyfwerth ag amser llawn 0.51), Cyfnod Penodol (Diwedd Awst 2024)
Cyflog: M1 £30,620- - UP£ £47,331. Bydd hyn yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol.
Mae Coleg Cambria yn chwilio am Ddarlithydd Mathemateg i ymuno â'n tîm ar ein safle Glannau Dyfrdwy. Fel Darlithydd Mathemateg byddwch chi'n gyfrifol am gyflwyno L2 i L6.
Gofynion Hanfodol
- Gyda gradd neu gyfwerth (cymhwyster Lefel 6) mewn Mathemateg neu gymhwyster proffesiynol perthnasol arall.
- Gyda chymhwyster TAR neu'n fodlon cyflawni'r cymhwyster.
- Profiad o weithio o fewn cyd-destun mathemategol lefel uchel
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'r gwaith a wnawn. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Ni fydd cais sy'n cael ei gyflwyno'r Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn Saesneg.
Mae ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch chi'n gwneud cais amdani ac os ydych chi'n llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Fel arfer caiff swyddi eu hysbysebu gydag ystod gyflog. Os cynigir swydd i chi yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried i benderfynu ar eich cyflog cychwynnol.
Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig