MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Nantgarw Campus,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £34,755 - £37,056 (CALI)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 14 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £34,755 - £37,056 (CALI)
Hyfforddwr Academi Rygbi MerchedSwydd ddisgrifiad
Am y rôl:
Fel Hyfforddwr yr Academi Rygbi Merched, byddwch yn cynllunio ac yn cynnal sesiynau ar y cae wrth ddadansoddi perfformiad chwaraewyr. Bydd eich rôl yn cynnwys cynnal adolygiadau un-i-un gyda chwaraewyr a gweithio ar y cyd i greu a monitro cynlluniau datblygu unigol ar gyfer y rhai yn yr academi rygbi merched. Byddwch yn meithrin amgylchedd perfformiad uchel ac yn cyfrannu at athroniaeth rygbi'r coleg. Bydd y rôl yn cynnwys teithio'n aml i gampysau eraill a bydd angen i chi fynd gyda chwaraewyr i gemau.
Gwybodaeth Bellach:
Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.
Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.
Canllawiau Cais:
Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.
Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law
Cyswllt:
Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected] .uk