MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £63,287 - £69,522
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £63,287 - £69,522
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaethTeitl y Swydd: Pennaeth Cynorthwyol - Adeiladu a Pheirianneg
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Parhaol / Llawn Amser
Cyflog: £63,287 - £69,522
Ymunwch â'n Tîm Dynamig yng Ngholeg Cambria!
Ydych chi'n angerddol am siapio dyfodol addysg mewn adeiladu a pheirianneg? Mae Coleg Cambria yn chwilio am Bennaeth Cynorthwyol ysbrydoledig ac ymroddedig i arwain ein rhaglenni arloesol ar ein safle Glannau Dyfrdwy. Dyma gyfle unigryw i wneud effaith sylweddol mewn coleg blaengar, sy'n canolbwyntio ar bobl, ac yn hybu rhagoriaeth mewn addysg ac ymgysylltu â'r diwydiant.
Pam Mae'r Swydd Yma Yn Gyffrous:
• Arwain ac Arloesi: Goruchwylio ac ehangu ein cwricwlwm Adeiladu a Pheirianneg, arwain tîm dynamig o dros 50 o weithwyr proffesiynol ymroddedig.
• Twf a Datblygiad: Gyda dros 700 o ddysgwyr wedi cofrestru mewn rhaglenni AB/AU/DYYG a rhaglenni ysgol, byddwch chi'n chwarae rhan hanfodol yn eu twf academaidd a phroffesiynol.
• Effaith Strategol: Gweithio'n agos gyda'r Is-Bennaeth (Sefydliad Technoleg) a Phennaeth Cynorthwyol ein safle Ffordd y Bers i gyfieithu nodau strategol i lwyddiannau gweithredol, gan sicrhau profiadau dysgu o ansawdd uchel.
Prif Gyfrifoldebau:
• Arwain y Cwricwlwm: Gyrru datblygu, cyflwyno a monitro'r cwricwlwm i fodloni anghenion amrywiol dysgwyr.
• Rheoli Tîm: Ysbrydoli a rheoli staff, gan feithrin diwylliant o arloesi a gwella parhaus.
• Cymorth i Ddysgwyr: Sicrhau cymorth rhagorol i ddysgwyr, ymdrin â gofal bugeiliol a materion disgyblu gydag empathi a phroffesiynoldeb.
• Ymgysylltu â Rhanddeiliaid: Adeiladu partneriaethau cadarn gyda rhanddeiliaid y diwydiant, cynyddu cyfleoedd i ddysgwyr a staff.
• Sicrhau Ansawdd: Arwain ymgyrchoedd ansawdd, gan gynnwys dilysu mewnol a hunanasesu, i gynnal safonau uchel.
Yr Hyn Rydym Yn Chwilio Amdano, Gofynion Hanfodol:
• Cefndir Addysg: Gradd mewn maes pwnc arbenigol.
• Profiad Arwain: Hanes profedig o arwain llwyddiannus mewn amgylchedd addysg neu gyfwerth, gydag o leiaf dwy flynedd o ddarpariaeth addysgu a dysgu.
• Sgiliau Cyfathrebu: Sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol, a'r gallu i ymgysylltu ag ystod eang o gynulleidfaoedd.
• Perthnasoedd Strategol: Lefel uchel o hyder a sgil rhyngbersonol i adeiladu a chynnal perthnasoedd strategol allweddol.
• Gwybodaeth ac Arbenigedd: Dealltwriaeth gynhwysfawr o brosesau addysgu, dysgu ac asesu. Byddem yn croesawu profiad yn y diwydiant adeiladu yn arbennig.
Yr Ymgeisydd Delfrydol:
Er ein bod yn gwerthfawrogi pob ymgeisydd, rydym yn croesawu'n arbennig y rhai sydd â chefndir cadarn mewn adeiladu i ddod ag arbenigedd a mewnwelediad ychwanegol i'n rhaglenni.
Gwybodaeth Ychwanegol:
• Cyfweliad: Rhowch wybod i ni am eich argaeledd.
• Y Gymraeg: Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol, rydym yn croesawu ceisiadau Cymraeg ac maent yn cael eu trin yn gyfartal â cheisiadau Saesneg.
• Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: Wedi ymrwymo i grŵp staff amrywiol, mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anabledd', sy'n ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles unigolion agored i niwed.
• Cydymffurfio: Mae'n bosibl y bydd angen cofrestriad DBS gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a Datgeliad ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Gwnewch Gais Rŵan:
Dewch i gymryd eich cam nesaf yn eich gyrfa gyda Choleg Cambria. Cyflwynwch eich cais mewn da bryd gan y byddwn yn cau'r swydd wag yn gynnar os mae llawer â diddordeb yn y swydd. Ymunwch â ni i fod yn rhan o dîm sy'n siapio dyfodol addysg adeiladu a pheirianneg!
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai