MANYLION
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £27,231.81 - £29,550.77 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Aseswr Dysgu yn y Gweithle - Trydanol

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £27,231.81 - £29,550.77 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Yn atebol i'r Rheolwr Maes Rhaglen Adeiladwaith. Gweithio fel aelod o'r tîm adeiladwaith i gefnogi ac asesu gwaith ymarferol a phortffolio dysgwyr trydanol er mwyn iddynt ennill eu cymhwyster NVQ

Mae'r swydd yn golygu gweithio gyda dysgwyr yn bennaf yn y gweithle gan sicrhau bod yr hyfforddiant a'r asesu o'r safon uchaf yn gyson. Mae'r swydd yn golygu teithio i wahanol weithleoedd i gyfarfod gyda dysgwyr/cyflogwyr. Rôl aseswr yw arsylwi ar brentisiaid yn cyflawni ystod o swyddi trydanol yn y gweithle a sicrhau bod y gwaith a wneir gan y prentis/gweithiwr yn cyfarfod gyda safonau diwydiannol/proffesiynol.

Bydd yna hefyd peth gwaith asesu o fewn y coleg yn dibynnu ar strwythur y rhaglen hyfforddi.

Drwy gytundeb gyda'r Rheolwr Maes Rhaglen gellir gofyn i'r Aseswr ddarparu hyfforddiant a chyfarwyddyd i grwpiau o ddysgwyr sy'n cyflawni gweithgareddau ymarferol yn ogystal ag asesu eu gwaith ymarferol a phortffolio.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/300/24

Cyflog
£27,231.81 - £29,550.77 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Ddydd Gwener

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
14 Awst 2024
12:00 YH(Ganol dydd)