MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pencoed,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: Graddfa Gyflog 1 - £12 yr awr
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog 1 - £12 yr awr
Casual Animal Care AssistantDisgrifiad o'r swydd Cynorthwyydd Gofal Anifeiliaid Achlysurol
Graddfa Gyflog 1 - £12 yr awr
Contract Achlysurol
(Mae’r oriau gweithio ar sail ad-hoc)
Sylwch - mae’r cyfle hwn wedi’i anelu at y corff myfyrwyr presennol yng Ngholeg Penybont
Byddwch yn cyflawni dyletswyddau gofal anifeiliaid cyffredinol a pharatoi offer ymarferol i’w ddefnyddio yn y ganolfan ac mewn darlithoedd. Bydd eich dyletswyddau yn gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Dyletswyddau gofal anifeiliaid cyffredinol (taflu allan, gweinyddu meddyginiaethau sylfaenol, bwyda a dyfrio stoc ac ati);
- Cynorthwyo a diweddaru cofnodion canolfan anifeiliaid;
- Cynorthwyo ȃ chynnal a chadw’r caeau gofal anifeiliaid ac ardaloedd cysylltiedig;
- Cynorthwyo gydag iechyd, lles ac ewthanasia’r holl stoc yn ôl yr angen;
- Cynorthwyo gyda pharatoi, cynnal a chadw a storio offer ar gyfer sesiynau ymarferol;
Bydd gennych brofiad o hwsmonaeth ymarferol o anifeiliaid mawr a bach gan gynnwys anifeiliaid egsotig a dyfrol, byddwch hefyd yn meddu ar (neu’n gweithio tuag at) cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc yn gysylltiedig ag anifeiliaid, neu gyfwerth.
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.