MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £24,346 - £29,500 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £24,346 - £29,500 / blwyddyn
Swyddog y GofrestrfaApplication Deadline: 9 August 2024
Department: Cofrestrfa
Employment Type: Parhaol
Location: Campws Graig
Reporting To: 23-24/02/07
Compensation: £24,346 - £29,500 / blwyddyn
DescriptionMae gan y Coleg gyfle ar gyfer Swyddog y Gofrestrfa i ymuno â thîm y Gofrestrfa, wedi'i leoli yn Llanelli. Bydd y swydd yn gweld yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl ganolog yn y gwaith o gasglu a chyflwyno data addysg bellach ac uwch, o hyn caiff y Coleg ei ariannu a'i berfformiad ei fonitro. Bydd y rôl hon yn golygu cydweithio ag ystod o bartïon mewnol ac allanol er mwyn gweinyddu gweithgareddau'n ymwneud ag ymrestru, casglu ffioedd, cofrestru, arholi a chyrhaeddiad; felly bodloni gofynion a osodir gan Lywodraeth Cymru, Y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) a sefydliadau dyfarnu i enwi ond ychydig.
Mae rôl Swyddog y Gofrestrfa yn un heriol ac mae'n golygu cyfrifoldeb sylweddol. Tra bydd y gwaith wedi'i ganoli'n bennaf ar gampws y Graig, bydd hefyd yn golygu gweithgareddau'n ymwneud â phob un o saith o gampysau'r coleg. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos y gallu i weithio i derfynau amser tynn a osodir yn allanol tra'n sicrhau cywirdeb a hyblygrwydd wrth gyflawni'r rôl.
Cyfrifoldebau AllweddolBydd disgwyl i Swyddog y Gofrestrfa:
- Weithio'n agos gyda Rheolwr y Gofrestrfa a meysydd cwricwlwm wrth roi gwybodaeth gwricwlwm gywir ar System Gwybodaeth Reoli (MIS) y Coleg.
- Darparu data i Lywodraeth Cymru (WG) trwy ffurflenni ariannu perthnasol mewn modd amserol.
- Gweithio gyda meysydd cwricwlwm, timau rheoli a MIS i nodi anghenion adrodd a datblygu adroddiadau ble bo'n ofynnol i ategu'r gwaith o fonitro perfformiad a materion yn ymwneud ag ariannu .
- Cefnogi MIS i ddatblygu ymhellach defnydd y Coleg o Tribal fel system gwybodaeth reoli.
- Cydlynu gwaith gweinyddu'n ymwneud â chymorth ariannol i ddysgwyr yn ddyddiol (e.e.) Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
- Trefnu a goruchwylio'r trefniadau ar gyfer arholiadau mewnol ac allanol ar Gampws y Graig, gan gynnwys trefnu lleoliad, goruchwyliaeth, arholwyr ymweliadol, trefniadau mynediad ac apeliadau.
- Gweithio'n agos gyda Swyddog y Gofrestrfa (Cofrestriadau) i brosesu cofrestriadau cyrff dyfarnu ar draws y coleg.
- Gweinyddu anghenion yr holl fyrddau arholi perthnasol gan gynnwys prosesu gwaith cwrs i'w farcio i arholwyr erbyn terfynau amser penodedig.
- Cydlynu derbyn a dosbarthu canlyniadau arholiadau a thystysgrifau mewn cysylltiad â swyddfa'r campws.
- Cynorthwyo gyda chasglu a chofnodi data i gefnogi ariannu a monitro perfformiad.
- Cyfrannu at ddatblygu gweinyddu arholiadau'n effeithiol ar draws campysau'r Coleg.
- Darparu cyngor, arweiniad a hyfforddiant mewn swyddogaethau sy'n ymwneud â'r gofrestrfa ac arholiadau, lle bo angen.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr yn gymesur â gradd y swydd yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Cymhwyster lefel 4 neu brofiad cyfwerth sy'n berthnasol i'r swydd
- Profiad perthnasol o weinyddu Hanfodol
- Profiad o gronfeydd data ar gyfer cofnodi ac adrodd am ddata
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Sgiliau cyflwyno da
- Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau a phecynnau TG yn gymwys
- Dealltwriaeth dda o'r sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein