MANYLION
  • Lleoliad: Rhyl,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £23,411 - £23,925 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Technegydd Gweithdy - Cerbydau Modur

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £23,411 - £23,925 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Byddwch wedi eich lleoli ar gampws y Rhyl ac yn cynorthwyo tîm yr adran Cerbydau Modur o dan arweiniad a chyfarwydd cyffredinol y darlithwyr a'r Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol. Eich prif rôl fydd bod yn gyfrifol am hwyluso'r gwaith o gyflwyno sesiynau ymarferol i grwpiau o ddysgwyr yn y gweithdy Cerbydau Modur. Golyga hyn baratoi ar gyfer y sesiynau ymlaen llaw, gan sicrhau bod yr holl ddeunyddiau ac offer angenrheidiol yn barod. Byddwch hefyd yn cynorthwyo'r hyfforddwyr a'r myfyrwyr yn ôl yr angen yn ystod y sesiynau. Bydd eich cyfraniadau'n hanfodol i greu amgylchedd dysgu effeithiol a diddorol i'r dysgwyr.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/291/24

Cyflog
£23,411 - £23,925 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Y Rhyl

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
02 Awst 2024
12:00 YH(Ganol dydd)