MANYLION
  • Lleoliad: Rhyl,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,619 - £47,330 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Peirianneg (Technolegau Adnewyddadwy a Peirianneg)

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £30,619 - £47,330 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y swydd

Addysgu i safon uchel, creu cyfleoedd dysgu effeithiol a galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

Eich prif ddiben fel darlithydd peirianneg fydd addysgu ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf trwy ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel, datblygu'r cwricwlwm a mentora'r myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am gyflwyno gwersi ysgogol a diddorol, asesu cynnydd y myfyrwyr, meithrin sgiliau ymarferol a hyrwyddo datblygiadau newydd. Bydd eich swydd yn ymestyn y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, ac yn golygu ymgymryd â Datblygiad Proffesiynol Parhaus er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod am y datblygiadau diweddaraf yn eich maes, cydweithio â phartneriaid mewn diwydiant i sicrhau perthnasedd y cwricwlaidd a chyfrannu at gynlluniau adrannol. Trwy gydbwyso gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiad ymarferol a chynnal amgylchedd dysgu diogel, eich nod fydd rhoi i'r myfyrwyr y sgiliau, y wybodaeth a'r galluoedd datrys problemau fydd eu hangen arnynt i gael gyrfa lwyddiannus ym maes peirianneg.

Ble byddwch chi'n gweithio: Y Ganolfan Peirianneg a Thechnolegau Adnewyddadwy newydd ar gampws y Rhyl

Mae'r ganolfan newydd yn darparu addysg a hyfforddiant o'r radd flaenaf i'r sector peirianneg ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau a fydd yn cefnogi anghenion y diwydiant yn y dyfodol, yn cynnwys sgiliau hanfodol ar gyfer llwybrau dilyniant ym maes: mecaneg, cynnal a chadw, electroneg, trydan, ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu ychwanegion a thrawsnewid digidol.

Mae gan y ganolfan newydd gyfleusterau hyfforddi ac arbenigedd ym maes ynni adnewyddadwy, a rhan o'ch gwaith fydd cefnogi rhaglen brentisiaeth genedlaethol i dechnegwyr tyrbinau gwynt ar y tir a'r môr. Yr adran hefyd sy'n arwain y gystadleuaeth sgiliau Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru.

Mae'r cyfleuster tri llawr newydd yn 2,886m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o'r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf - o ystafelloedd dylunio gyda chymorth cyfrifiaduron i beiriannau prototeipio 3D a gweithdy CNC. Ceir hefyd labordai ar gyfer electroneg, egwyddorion mecanyddol, roboteg, PLCs, Diwydiant 4.0, Realiti Rhithwir a Realiti Estynedig.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/288/24

Cyflog
£30,619 - £47,330 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Y Rhyl

Hawl gwyliau
• 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol

• Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.

• Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
01 Awst 2024
12:00 YH(Ganol dydd)