MANYLION
  • Lleoliad: Port Talbot, Neath Port Talbot, SA12 6HZ
  • Testun: Tiwtor Oedolion
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Saesneg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Tiwtor SSIE

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae gennym gyfle gwych o fewn tîm rhanbarth y De-Orllewin ar gyfer Tiwtor SSIE sy’n cael ei dalu fesul yr awr i gyflwyno yn ardal Canol Abertawe. Bydd dyletswyddau yn cynnwys cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a phrosesau a gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, i helpu i ddarparu dysgu o ansawdd uchel.

Rydym yn chwilio am geisiadau gan ymgeiswyr i ddarparu'r ddarpariaeth SSIE fel y nodir isod. Ar gyfer y ddarpariaeth isod, rydym yn edrych am un person i gyflwyno pob lefel, (e.e. yr un tiwtor i gyflwyno Lefel Mynediad 2 ar gyfer Dydd Llun a Dydd Mercher) neu un person sy'n gallu darparu pob lefel fel y nodir isod.

Darpariaeth SSIE:
*Tiwtor SSIE i gyflwyno gyda’r nos (yn Adeilad YMCA, Abertawe)
• Dydd Llun a Dydd Mercher – 6yh i 8yh (Lefel Mynediad 2)
• Dydd Mawrth a Dydd Iau – 6yh i 8yh (Lefel Mynediad 3)
• Dydd Gwener – 4yh i 8yh (Lefel 1)


Dull Cyflwyno – Wyneb-i-Wyneb
Lleoliad addysgu – Adeilad YMCA, Abertawe
Cytundeb: Cyfnod Penodol, Tal fesul yr awr am flwyddyn academaidd hyd at Gorffennaf 2025
Graddfa cyglog: £29.16 yr awr (i gynnwys tal gwyliau)



Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi

• £29.16 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)
• Cynllun Pensiwn Athrawon
• Datblygiad Proffesiynol Parhaus


Sut i wneud cais
Gwnewch gais drwy ddefnyddio'r ffurflen gais ar-lein ar wefan AddysgOedolion Cymru

Sylwch na fydd CVs heb ffurflen gais wedi'i chwblhau yn derbynniol.

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 9.00yb Dydd Mercher 31ain Gorffennaf 2024