MANYLION
  • Lleoliad: Port Talbot, Neath Port Talbot, SA12 6HZ
  • Testun: Tiwtor Oedolion
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Tiwtor SSIE - Amser Tymor yn Unig

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae gennym gyfle gwych i diwtor SSIE medrus a chymwys i gyflwyno dysgu SSIE o ansawdd uchel i ddysgwyr yn ardal Abertawe. Mae hon yn swydd rhan amser, cyflogedig, amser tymor yn unig, hyd at ddiwedd Gorffennaf 2025, i ddechrau mis Medi 2024. Byddwch yn cynllunio, darparu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau SSIE a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a phrosesau a gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru. Byddwch yn cyflwyno darpariaeth o ansawdd uchel gan ddefnyddio ystod o ddulliau addysgu ac yn defnyddio ystod o ddulliau asesu priodol yn unol ag anghenion dysgwyr a gofynion y corff dyfarnu. Byddwch yn sicrhau bod dysgwyr yn cael adborth clir ac adeiladol o fewn amserlenni priodol.

Dull Cyflwyno: Wyneb-i-Wyneb

Lleoliad addysgu: Princess House, Ffordd y Dywysoges, Abertawe SA1 3LW

Amserlen Addysgu: Dydd Llun – Dydd Gwener, 9.30 – 1.30
Mae hon yn swydd Amser Tymor yn Unig am 28 awr yr wythnos dros dymor o 39 wythnos yn dechrau ym mis Medi 2024, gyda 20 awr o amser addysgu ag 8 awr o amser cynllunio a darparu.


Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi

• I fyny at £35,773 pro rata, y flwyddyn yn dibynnu ar brofiad
• Cynllun Pensiwn Athrawon
• Datblygiad Proffesiynol Parhaus


Sut i wneud cais
Gwnewch gais drwy ddefnyddio'r ffurflen gais ar-lein ar wefan AddysgOedolion Cymru

Sylwch na fydd CVs heb ffurflen gais wedi'i chwblhau yn derbynniol.

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 9.00yb Dydd Mercher 31ain Gorffennaf 2024