MANYLION
  • Lleoliad: Swansea , Swansea, SA1 1NW
  • Testun: Cydlynydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm - Castell-Nedd Port Talbot

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae rôl y Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm yn un amrywiol sy'n cefnogi datblygiad a gweithrediad y ddarpariaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, yn ardal Castell-nedd Port Talbot. Mae hon yn rôl ymarferol sy'n cynnwys pob agwedd ar gynllunio, trefnu, dyrannu adnoddau a datblygu. Bydd eich gwaith yn allweddol wrth gynorthwyo'r Rheolwr Rhanbarthol i sicrhau bod yr holl weithgareddau dysgu yn bodloni'r targedau darpariaeth, cyllid ac ansawdd y cytunwyd arnynt.

Os ydych yn mwynhau amgylchedd gwaith cyflym, amrywiol a gwerth chweil a bod gennych y sgiliau gofynnol, dyma'r cyfle perffaith i ymuno â ni.

Sut i wneud cais:
Gwnewch gais drwy ddefnyddio'r ffurflen gais ar wefan Addysg Oedolion Cymru -
Sylwch na fydd CVs heb ffurflen gais wedi'i chwblhau yn derbynniol.

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 9yb Dydd Mercher 31ain Gorffennaf 2024

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.