MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhyl,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £30,513 - £32,557 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol - Peirianneg (Thechnolegau Adnewyddadwy a'r Ganolfan Peirianneg)
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £30,513 - £32,557 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
O dan arweiniad a chyfarwyddyd cyffredinol y staff darlithio bydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn cynnal sesiynau ymarferol mewn gweithdai i grwpiau o ddysgwyr, a bydd yn cynorthwyo darlithwyr trwy olrhain ac asesu cynnydd y dysgwyr, gan roi arweiniad a chefnogaeth yn ôl yr angen.Ble byddwch chi'n gweithio: Y Ganolfan Peirianneg a Thechnolegau Adnewyddadwy newydd ar gampws y Rhyl
Mae'r ganolfan newydd yn darparu addysg a hyfforddiant o'r radd flaenaf i'r sector peirianneg ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau a fydd yn cefnogi anghenion y diwydiant yn y dyfodol, yn cynnwys sgiliau hanfodol ar gyfer llwybrau dilyniant ym maes: mecaneg, cynnal a chadw, electroneg, trydan, ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu ychwanegion a thrawsnewid digidol.
Mae gan y ganolfan newydd gyfleusterau hyfforddi ac arbenigedd ym maes ynni adnewyddadwy, a rhan o'ch gwaith fydd cefnogi rhaglen brentisiaeth genedlaethol i dechnegwyr tyrbinau gwynt ar y tir a'r môr. Yr adran hefyd sy'n arwain y gystadleuaeth sgiliau Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru.
Mae'r cyfleuster tri llawr newydd yn 2,886m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o'r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf - o ystafelloedd dylunio gyda chymorth cyfrifiaduron i beiriannau prototeipio 3D a gweithdy CNC. Ceir hefyd labordai ar gyfer electroneg, egwyddorion mecanyddol, roboteg, PLCs, Diwydiant 4.0, Realiti Rhithwir a Realiti Estynedig.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/287/24
Cyflog
£30,513 - £32,557 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Y Rhyl
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
01 Awst 2024
12:00 YH(Ganol dydd)