MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £47,697 - £53,933
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Rheolwr Ymgysylltu â Chyflogwyr CC/2622

Coleg Cambria

Cyflog: £47,697 - £53,933

Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Rheolwr Ymgysylltu â Chyflogwyr

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol - Llawn amser

Cyflog: £ 47,697 - £ 53,933

Ar hyn o bryd mae gennym ni gyfle cyffrous ar gyfer Rheolwr Ymgysylltu â Chyflogwyr i ymuno â'n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar ein safle Glannau Dyfrdwy.

Dyma swydd ysbrydoledig i lywio'r maes ar draws y Gyfarwyddiaeth/Coleg, gan arddangos Egwyddorion Nolan, sef anhunanoldeb, didwylledd, gwrthrycholdeb, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd ac arweinyddiaeth. Bydd hefyd yn dilyn egwyddorion Cod Llywodraethu Da ar gyfer Colegau yng Nghymru o fod yn barchus, yn broffesiynol, yn bwyllog, yn ymrwymedig ac yn frwd dros lywodraethu da.

Bydd y Rheolwr Ymgysylltu â Chyflogwyr yn datblygu a gweithredu strategaeth i ddarparu gwasanaeth ymgysylltu â chyflogwyr/cyflogadwyedd sy'n arwain y sector ac sy'n dod â buddion ariannol. Rheoli rhaglenni/mentrau priodol Llywodraeth Cymru gan gynnwys Cyfrifon Dysgu Personol, Teithiau Rhyngwladol, Siop Swyddi, Profiad Gwaith ac unrhyw brosiectau ariannu allanol eraill ar gyfer y coleg.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn berswadiol ac yn ddylanwadol, gan y byddant yn ymgysylltu â chyflogwyr i gynyddu gwaith y coleg o ran prentisiaethau a phob math o weithgareddau cysylltiedig â chyflogwyr, gan gynnwys digwyddiadau, siaradwyr gwadd, mentora, profiad gwaith ac interniaethau i ddysgwyr. Yn ogystal â hyn byddant yn darparu arweiniad ar gyfer adrannau ymgysylltu â chyflogwyr a chyflogadwyedd, yn sicrhau rheolaeth effeithiol ac effeithlon o'r gyllideb ac yn datblygu trosolwg effeithiol o dargedau'r Coleg ar gyfer cynhyrchu incwm.

Mae sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu yn allweddol er mwyn ymgysylltu'n effeithiol â Chyfarwyddwyr a swyddogaeth Marchnata'r Coleg i ddatblygu, hyrwyddo a chyflwyno darpariaeth i ddiwallu anghenion cyflogwyr a marchnata'r Coleg yn effeithiol i gyflogwyr.

Gofynion Hanfodol
  • Hanes o Ddatblygu Busnes mewn amgylchedd sy'n symud yn gyflym a gweithio ar lefel uchel
  • Addysg at gymhwyster Lefel 4 o leiaf
  • Cymhwyster Rheoli neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny
  • Gallu dangos profiad blaenorol neu'r gallu i arwain, hyfforddi ac ysbrydoli tîm
  • Gallu dangos profiad blaenorol a'r gallu i reoli cyllidebau o feintiau amrywiol
  • Gallu dangos ymrwymiad at bwysigrwydd Diogelwch ac ymwybyddiaeth o hynny
  • Gallu arwain, rheoli a chymell staff i gyflawni'r lefel uchaf o ansawdd a pherfformiad
  • Gallu herio staff yn briodol a chynnal trafodaethau anodd gyda staff
  • Dangos lefel dda o gymhwysedd TG. Rhaid gallu defnyddio'r Rhyngrwyd a'r Fewnrwyd yn ogystal â bod yn barod a gallu dysgu sut i ddefnyddio rhaglenni a systemau TG newydd
  • Gallu penderfynu ar flaenoriaethau a gwneud penderfyniadau, gyda sgiliau trefnu rhagorol
  • Gallu rhwydweithio'n effeithiol
  • Ymrwymiad i ddiwylliant y coleg sy'n rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn
  • Ymrwymiad y gellir ei ddangos at gydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Hyrwyddo safonau uchel yn broffesiynol, moesol a phersonol yn holl agweddau'r sefydliad, gan arddel Egwyddorion Nolan
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig