MANYLION
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £27,231.81 - £29,550.77 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Awst, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Technolegydd Bwyd Cynorthwyol, cytuneb penodol am 2 flynedd

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £27,231.81 - £29,550.77 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Gwybodaeth gefndirol

Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi'i sefydlu ers 1999 a chwaraea ran allweddol yn y gwaith o drosglwyddo gwybodaeth i'r diwydiant bwyd yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Gan weithio yn agos gyda busnesau bwyd er mwyn eu helpu i gael mantais gystadleuol, mae gan y ganolfan adnoddau penodol sy'n galluogi busnesau bwyd gael gafael ar gefnogaeth dechnegol, atebion ymarferol, a chyngor ac arweiniad mewn meysydd sy'n allweddol i dyfu busnes. Dilynwch y ddolen hon i weld y cyfleusterau a darllen peth o'r adborth gan ein cleientiaid. https://www.foodtech-llangefni.co.uk/about-the-food-technology-centre.

Mae'r adnoddau hyn yn caniatáu i'r Ganolfan Technoleg Bwyd gynnig amrediad o wasanaethau i'r diwydiant bwyd, gan gynnwys ymchwil a datblygu, cyngor technegol, trosglwyddo gwybodaeth a chyrsiau hyfforddi wedi'u haddasu'n benodol ar gyfer cleientiaid. Cafodd y Ganolfan ei huwchraddio yn 2019 ac mae ganddi dair neuadd brosesu yn ogystal â chegin brofi a ddefnyddir yn bwrpasol i ychwanegu gwerth i gig a physgod, cynnyrch llaeth a chynnyrch garddwriaethol. Ym mhob neuadd brosesu ceir ystod eang o offer modern ar raddfa ddiwydiannol a ddefnyddir i ddatblygu a threialu cynnyrch newydd. Mae'r Ganolfan hefyd yn cynnwys cyfleusterau synhwyraidd ar gyfer asesu cynnyrch a labordy ar y safle y gellir ei ddefnyddio i ddarparu canlyniadau cywir er mwyn cadarnhau gwybodaeth labelu a datganiadau maeth.

Pwrpas y swydd

Bydd y Technolegydd Bwyd Cynorthwyol yn gweithio'n agos gyda'r tîm o Dechnolegwyr Bwyd a'r Technegydd. Byddwch yn dysgu sut i weithredu'r offer prosesu a rhywfaint o offer dadansoddol a gedwir yn y Ganolfan Technoleg Bwyd a chynnal y safonau uchel sy'n ofynnol fel safle cynhyrchu bwyd cymeradwy gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod lleol.

Yn atebol i'r Rheolwr Technegol Bwyd Amaeth, bydd deiliad y swydd yn cefnogi datblygiad cynnyrch newydd, dadansoddi synhwyraidd a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth yn y sectorau llaeth (llaeth, caws, menyn a hufen iâ), cig a bwydydd oer a bwydydd tymheredd amgylchynol e.e. sawsiau, melysion a danteithion popty.

Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd â phrofiad yn y diwydiant bwyd neu rywun sydd wedi graddio'n ddiweddar ac a hoffai ddatblygu eu sgiliau ymarferol a thechnegol. Mae'r swydd yn amrywiol ond bydd yn canolbwyntio ar brosesu llaeth i ddechrau.

Gellid cael cyfle i symud ymlaen i swydd Technolegydd Bwyd pe bai cyfleoedd yn codi.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/293/24

Cyflog
£27,231.81 - £29,550.77 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn (1 Medi i 31 Awst).

Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.

Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
16 Awst 2024
12:00 YH(Ganol dydd)