MANYLION
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £24,049 - £44,011 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Awst, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £24,049 - £44,011 / blwyddyn
Mentor Cyflwyno'r Iaith GymraegApplication Deadline: 9 August 2024
Department: Bilingualism
Employment Type: Cyfnod Penodol - Rhan Amser
Location: I gael ei gadarnhau
Reporting To: Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd
Compensation: £24,049 - £44,011 / blwyddyn
DescriptionMae'r Bwrdd Corfforaethol wedi ymrwymo i benodi staff a fydd yn dangos menter a brwdfrydedd ac a fydd yn ychwanegu ymhellach at enw da'r Grŵp AB trwy ymrwymiad i weithio fel aelod o dîm a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel. Mae'r swydd yn darparu cyfle heriol a chyffrous i ymarferwyr rhagweithiol ac arloesol sy'n gallu arddangos rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu dwyieithog a brwdfrydedd mawr dros yr Iaith Gymraeg.
Mae'r swydd Mentor Cyflwyno'r Iaith Gymraeg yn gorwedd ym Mhrifathrawiaeth Cynllunio, Dysgwyr a Chyfathrebu ac mae'n hanfodol bwysig i sicrhau bod y Grŵp AB yn cyflawni ei weledigaeth a'i gyrchnodau strategol. Gan weithio gyda'r Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd, ac arweinwyr cwricwlwm, bydd y Mentor Cyflwyno'r Iaith Gymraeg yn darparu cymorth ar gyfer yr holl faterion addysgu a dysgu dwyieithog a chyfrwng Cymraeg o fewn meysydd pwnc sector blaenoriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda ffocws ar hyfforddi a chefnogi staff addysgu o fewn y meysydd hynny. Blaenoriaeth ar gyfer y swydd hon yw sicrhau bod safonau addysgu a dysgu dwyieithog yn gwella'n barhaus a bod datblygiad staff a hyfforddiant o ansawdd uchel yn cael eu darparu ar gyfer yr holl staff, gan gynnwys cefnogaeth arbenigol i'r staff hynny y mae eu perfformiad proffesiynol yn cael ei archwilio. Bydd y Mentor Cyflwyno'r Iaith Gymraeg yn aelod staff sy'n dangos rhagoriaeth ac arloesedd yn ei ymarfer addysgu a dysgu dwyieithog o ddydd i ddydd.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Hyrwyddo a datblygu rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu dwyieithog;
- Gweithio gydag unigolion a thimau cwrs i ddatblygu a rhannu'r arfer gorau oll mewn addysgu a dysgu dwyieithog;
- Cefnogi a mentora athrawon newydd ac athrawon sefydledig i wella pob agwedd ar eu perfformiad a'u cefnogi drwy'r model Sylfaenol Gwell Gorau;
- Mentora aelodau newydd o staff drwy eu cyfnodau cynefino a phrawf priodol mewn addysgu a dysgu dwyieithog;
- Cynnal arsylwadau o staff addysgu o fewn meysydd pwnc blaenoriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel y cytunwyd gyda'r Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd;
- Darparu cefnogaeth hyfforddi a mentora i wella dulliau cyflwyno addysgu dwyieithog i staff newydd o fewn y meysydd pwnc blaenoriaeth;
- Darparu adborth i staff maes pwnc blaenoriaeth yn dilyn arsylwadau a'u cefnogi yn eu datblygiad trwy broses o hyfforddi a mentora gan ddilyn y model Sylfaenol Gwell Gorau;
- Cyfrannu at ddatblygiad yr adnoddau canolog ar y safle Google Cymraeg a chefnogi cyflwyno a defnyddio'r adnoddau;
- Cyfrannu at ac ymgymryd â gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus sy'n berthnasol i gyflwyno dwyieithog ac sy'n deillio o arsylwi rolau addysgu a dysgu;
- Cadw cofnodion cywir a chynhyrchu cynlluniau gweithredu ac adroddiadau ar ddatblygiad addysgu a dysgu dwyieithog;
- Cyfrannu at a chydlynu gwaith Addysgu a Dysgu dwyieithog fel bo'n berthnasol a phriodol ac sy'n eistedd yn unol â chynllun gwaith y Gyfarwyddiaeth;
- Cefnogi asesu gwaith dysgwyr cyfrwng Cymraeg lle bo angen; Mynychu Paneli Pwnc y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Gradd neu gyfwerth
- Cymhwyster addysgu
- TGAU Cymraeg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Profiad llwyddiannus o addysgu ystod eang o ddysgwyr ar wahanol lefelau a chyflwyno'n ddwyieithog yn gyson yn eich arsylwadau gwersi graddedig eich hun
- Profiad ôl-Tystysgrif Addysg neu brofiad cyfwerth
- Profiad llwyddiannus o wneud gwelliannau arwyddocaol mewn sgiliau Iaith Gymraeg myfyrwyr
- Profiad o fentora neu hyfforddi
- Gwybodaeth am ddatblygiadau allweddol sy'n effeithio ar ddysgu ac addysgu dwyieithog mewn Addysg Bellach/Uwch
- Gwybodaeth am godio LA26, C1-B3 a sut i gefnogi dysgwyr i symud ar hyd y continwwm
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau addysgu dwyieithog effeithiol a strategaethau sy'n sicrhau lefelau uchel o ymgysylltu â myfyrwyr a dysgu effeithiol
- Gallu i ddefnyddio prif nodweddion swît rhaglenni Microsoft Office a Google yn ogystal ag offer cymorth iaith Gymraeg ar-lein
- Profiad o ddefnydd llwyddiannus o e-ddysgu a strategaethau TGD iaith Gymraeg
- Brwdfrydedd am ddatblygu a hyrwyddo arfer llwyddiannus ac arloesol mewn addysgu a dysgu dwyieithog
- Gallu i arwain unigolion a thimau i ddatblygu safonau uchel o addysgu a dysgu
- Gallu i wneud dyfarniadau cadarn a chryf ynghylch dulliau addysgu dwyieithog gan ddefnyddio tystiolaeth sydd ar gael
- Gallu i roi adborth ffurfiol, adeiladol a beirniadol i gymheiriaid a chydweithwyr
- Sgiliau rhyngbersonol da a gallu i ysgrifennu adroddiadau clir a chryno
- Ymrwymiad i hyrwyddo Cyfle Cyfartal
- Ymrwymiad i gadw arbenigedd proffesiynol a sgiliau yn gyfoes
- Parodrwydd i weithio'n hyblyg i ateb gofynion y Coleg
- Profiad o arsylwi dysgu ac addysgu a rhoi adborth ffurfiol ac adeiladol i gymheiriaid a chydweithwyr eraill
- Parodrwydd i deithio ar draws yr holl gampysau
- Parodrwydd i yrru bws mini'r coleg
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein