MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £24,218 - £24,823
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Llesiant Safle CC/2569

Coleg Cambria

Cyflog: £24,218 - £24,823

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Cynghorydd Lles Campws

Lleoliad: G lannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Cyfnod Penodol / Llawn Amser (Ionawr 2025)

Cyflog £24,218 - £24,823

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag cyffrous yng Ngholeg Cambria. Mae Cymhorthwyr Llesiant yn cynorthwyo gweithgareddau a fydd yn gwella iechyd meddwl ein dysgwyr. Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn rhoi ein dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Felly, prif ddyletswydd Cymhorthydd Llesiant Safle bydd helpu a chynorthwyo ein dysgwyr fel eu bod yn teimlo'n rhan o gymuned y coleg. Os ydych chi'n unigolyn cyfeillgar a brwdfrydig, gyda dealltwriaeth o ddulliau rhoi gwybod am drawma ac ymddygiad cadarnhaol yna gall hwn fod y swydd berffaith i chi. Bydd angen i chi allu hwyluso sgwrs am lesiant ac iechyd meddwl a chyfeirio myfyrwyr yn effeithiol at wasanaethau eraill pan fo angen. Hefyd bydd angen i chi gydnabod a rhoi gwybod am unrhyw bryderon diogelu posibl.

Gofynion Hanfodol
  • Cymwysterau Saesneg a Mathemateg Lefel 2 (neu gymwysterau cyfwerth) gradd 4 (C) neu uwch.
  • Gallu dangos profiad blaenorol o hyfforddi a chefnogi unigolion.
  • Profiad diweddar o weithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion Iechyd Meddwl a/neu Lesiant.
  • Gallu dangos ymrwymiad at bwysigrwydd Diogelwch ac ymwybyddiaeth o hynny.
  • Gallu dangos gwybodaeth ynghylch iechyd meddwl a llesiant a'r effaith ar ddysgwyr.
  • Gallu ysgogi dysgwyr i gyflawni eu targedau a chynnal cymhelliant ac agwedd cadarnhaol.
  • Gallu siarad â staff a myfyrwyr yn briodol am safonau a disgwyliadau a chynnal sgyrsiau anodd.
  • Gallu arwain staff a dysgwyr trwy ddulliau ymddygiad cadarnhaol.
  • Dangos lefel dda o gymhwysedd TG. Rhaid gallu defnyddio'r Rhyngrwyd a'r Fewnrwyd yn ogystal â bod yn barod a gallu dysgu sut i ddefnyddio rhaglenni a systemau TG newydd.
  • Gallu gweithio'n annibynnol ac fel aelod o dîm er mwyn cyflawni amcanion unigol a thîm.
  • Hyrwyddo safonau uchel yn broffesiynol, moesol a phersonol yn holl agweddau'r sefydliad, gan arddel Egwyddorion Nolan.
  • Ymrwymiad y gellir ei ddangos at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai