MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 pro rata y flwyddyn Cymwysedig: £30,620 - £47,331 pro rata y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Lecturer in Plumbing

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 pro rata y flwyddyn Cymwysedig: £30,620 - £47,331 pro rata y flwyddyn

Lecturer in Plumbing

Disgrifiad o'r swydd Darlithydd Plymio

Digymhwyster: £24,049 - £28,381 pro rata y flwyddyn
Cymwysedig: £30,620 - £47,331 pro rata y flwyddyn

0.8 cyfwerth ag amser lawn (29.6 awr yr wythnos) a Pharhaol

Mae gennym gyfle cyffrous i Ddarlithydd rhan amser mewn Plymio i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Adeiladu gwych yng Ngholeg Penybont.

Byddwch wedi'ch addysgu hyd at o leiaf NVQ Lefel 3 neu safon gyfatebol mewn Plymio ac yn meddu ar ystod dda o sgiliau a gwybodaeth plymio. Dylech hefyd feddu ar dystysgrif TAR (neu fod yn barod i'w chael) ynghyd â gwybodaeth am brosesau ansawdd IQA/IV. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol bydd gennych y gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, a bod yn angerddol dros ysgogi pob dysgwr.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.