MANYLION
- Lleoliad: Pencoed,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog 3: £23,151 - £24,429 pro rata y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa Gyflog 3: £23,151 - £24,429 pro rata y flwyddyn
Technegydd - Cerbyd ModurDisgrifiad o'r swydd Technegydd - Cerbyd Modur
Graddfa Gyflog 3: £23,151 - £24,429 pro rata y flwyddyn
0.4 cyfwerth ag amser lawn (14.8 awr yr wythnos) a Pharhaol
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â’n tîm Peirianneg angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont.
Byddwch yn cynnal a chadw’r holl systemau, taclau, offer, offerynnau a chymhorthion addysgu er mwyn sicrhau bod rhaglenni dysgu yn gweithredu’n effeithiol ac yn ddiogel gan gynnwys dogfennaeth briodol. Bydd hyn hefyd cynnwys paratoi amrywiaeth o gerbydau modur a gweithdai ar gyfer arddangosiadau, sesiynau ymarferol ac asesiadau. Byddwch hefyd yn gyfrifol am helpu darlithwyr i oresgyn problemau technegol ar gerbydau ac offer.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol o leiaf gymhwyster Lefel 3 ac ystod dda o brofiad atgyweirio cerbydau. Byddwch hefyd yn meddu ar sgiliau gweithdy cyffredinol, yn cynnwys y gallu i gynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau a pheiriannau amrywiol. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr byddwch yn angerddol am ysgogi pob dysgwr.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.