MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend Campus,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Mathemateg a delir yn ôl yr awr

Coleg Penybont

Cyflog: GBP 24,049.00 - 28,381.00 per year;GBP 30,620.00 - 47,331.00 per year

Darlithydd Mathemateg a delir yn ôl yr awr

Disgrifiad o'r swydd Darlithydd Mathemateg a delir yn ôl yr awr

Noder, contract a delir yn ôl yr awr yw hon, sy’n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe’u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.

Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno ag ein tȋm brwdfrydig ac angerddol yng Ngholeg Penybont. Fel Darlithydd a delir yn ôl yr awr, byddwch yn cynllunio, datblygu a darparu cynnwys y cwricwlwm yn effeithiol ac effeithlon.

Gofynnwn fod gennych chi wybodaeth am gymwysterau Mathemateg a Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif CBAC presennol hyd at fanylebau Lefel 2, ynghyd ȃ gradd Mathemateg neu brofiad cyfwerth. Dylech hefyd feddu ar dystysgrif TAR (neu fod yn barod i'w chael) a bod â sgiliau rhyngbersonol rhagorol gan gynnwys y gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr.

Os teimlwch y gallech gyfrannu at yr addysgu a'r dysgu o fewn y maes hwn, rydym am glywed wrthoch chi! Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth Swydd

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.