MANYLION
- Lleoliad: Bridgend Campus,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog 5: £27,492 - £30,185 pro rata y flwyddyn (Cyflog Gwirioneddol yn seiliedig ar weithio 39 wythnos y flwyddyn - £7,115 - £7,812 y flwyddyn) (cyfwerth â £14.25 - £15.64 yr awr)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Awst, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa Gyflog 5: £27,492 - £30,185 pro rata y flwyddyn (Cyflog Gwirioneddol yn seiliedig ar weithio 39 wythnos y flwyddyn - £7,115 - £7,812 y flwyddyn) (cyfwerth â £14.25 - £15.64 yr awr)
Hyfforddwr/Asesydd LletygarwchDisgrifiad o'r swydd Hyfforddwr/Asesydd Lletygarwch
Rhan Amser (0.3 cyfwerth ag amser llawn / 11.1 awr yr wythnos) ac yn ystod y tymor yn unig (39 wythnos y flwyddyn)
Cyfnod Penodol am 1 flwyddyn academaidd
Graddfa Gyflog 5: £27,492 - £30,185 pro rata y flwyddyn
(Cyflog Gwirioneddol yn seiliedig ar weithio 39 wythnos y flwyddyn - £7,115 - £7,812 y flwyddyn)
(cyfwerth â £14.25 - £15.64 yr awr)
Rydym yn chwilio am Hyfforddwr/Asesydd Lletygarwch angerddol a phrofiadol i ymuno â'n tîm deinamig. Byddwch yn gweithio’n agos gyda staff darlithio i gyfarwyddo ac asesu dysgwyr mewn lleoliad ymarferol, gan sicrhau eu bod yn caffael y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ragori yn y diwydiant lletygarwch.
Rydym yn ymroddedig i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel ym maes lletygarwch, gan sicrhau bod ein dysgwyr yn cael gwybodaeth ddamcaniaethol gynhwysfawr a sgiliau ymarferol i gyflawni eu potensial. Mae'r rôl yn cynnwys rhoi hyfforddiant ymarferol o weithio flaen-tŷ yn ogystal â sgiliau cegin, gan arwain dysgwyr i gyflawni eu gorau. Byddwch yn cynnal asesiadau ac arsylwadau ymarferol, yn rhoi adborth adeiladol ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau cyrff dyfarnu. Mewn cydweithrediad â darlithwyr, byddwch yn defnyddio deunyddiau dysgu arloesol ac yn cymryd rhan mewn prosesau sicrhau ansawdd.
Bydd gennych gymwysterau perthnasol mewn Lletygarwch (NVQ Lefel 3 neu gyfwerth) ac yn ddelfrydol cymwysterau asesydd, gyda phrofiad profedig o weithio mewn amgylchedd blaen-tŷ a/neu gegin ac o ddarparu hyfforddiant ymarferol. Dylai fod gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol a gallu gweithio'n gytûn â staff a dysgwyr, uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, a dangos gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol bob amser.
Os ydych yn frwd dros rannu eich arbenigedd a’ch profiad yn y diwydiant lletygarwch gyda’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol, hoffem glywed gennych.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.