MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil,
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Dosbarth Canolfan Adnoddau Dysgu CCD - Anawsterau Dysgu Cymhleth

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyflog: £24,294.00 - I: £26,421.00

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL
YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL COED-Y-DDERWEN
Pennaeth: Mrs. S. Townsin
Ar gyfer Mis Medi 2024
Dosbarth Canolfan Adnoddau Dysgu CCD - Anawsterau Dysgu Cymhleth

Lefel 3 Llawn Amser 27.5 awr

Gradd 3 SCP 7 - 12 £24,294 - £26,421 Cyflogaeth Llawn Amser
65% o SCP 7 = £15,791 PRO RATA

Cytundeb Penodol o Flwyddyn (yn y lle cyntaf)

Dyddiad Cau: Dydd Mercher 3
ydd Gorffennaf 2024 12yp

Mae'r Awdurdod Lleol a Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Coed y Dderwen yn chwilio am

Gynorthwyydd Cefnogaeth Dysgu arbennig, brwdfrydig ac ymroddgar i'w benodi / ei phenodi
yn yr ysgol i weithio'n hyblyg o fewn ein Canolfan Adnoddau Iaith Cyfnod Allweddol 2 a'r
Ganolfan Adnoddau Iaith i'r Cyfnod Sylfaen sydd wedi'i hen sefydlu yn yr ysgol.

Mae dosbarthiadau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu'n darparu amgylchedd ddysgu i hyd at
ddeg disgybl sydd ag anawsterau dysgu cymhleth. Rhaid eich bod chi'n gallu gweithio fel
rhan o dîm, bod gennych sgiliau cyfathrebu da a rhaid eich bod chi'n barod i ymgymryd â
hyfforddiant addas, arbenigol mewn perthynas â chyfathrebiad cymdeithasol ac anghenion
dysgu cymhleth.

Er y bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus wedi eu cyflogi gan yr Awdurdod Lleol, bydd disgwyl
iddynt weithio o fewn ystafell ddosbarth dan gyfarwyddyd y Pennaeth.

Mae croeso i ymgeiswyr sy'n diddori, ymweld â'r ysgol drwy apwyntiad gyda'r Pennaeth Mrs
S Townsin.
Mae'r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dylid e-bostio ffurflenni cais at sarah.townsin@merthyr.gov.uk a
jill.watkins1@merthyr.gov.uk. erbyn dydd Mercher y 3ydd o Orffennaf.

Penderfynir ar y rhestr fer ddydd Gwener y 5ed o Orffennaf a byddwn yn rhoi gwybod i'r
ymgeiswyr am ymweliadau arsylwi, os oes angen.

Cynhelir cyfweliadau yn yr ysgol ddydd Mercher y 10fed o Orffennaf 2024.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r Pennaeth os gwelwch yn dda drwy ffonio 01685 351805 neu Jill Watkins, Prif Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol drwy
ffonio 07973382854.

Bydd yn ofynnol i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodwyd fel rhai hanfodol.

Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein: www.merthyr.gov.uk

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch gael gafael ar ffurflen gais drwy ffonio

01685 725000 rhaid eu dychwelyd nid hwyrach na dydd Mercher y 3ydd o Orffennaf 2024 at
y cyfeiriadau e-bost uchod.

Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag yn gynt na'r dyddiad cau.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ffurflenni cais gan siaradwyr
Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw ffurflen gais a
gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na ffurflen gais a gyflwynir yn Saesneg.
Os ydych yn llwyddo i gyrraedd y rhestr fer a wnewch chi gysylltu gydag Adnoddau
Dynol - human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk - os gwelwch yn dda er mwyn rhoi
gwybod i ni os hoffech chi i ni gynnal eich cyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymroi i warchod a diogelu'r bobl sydd
fwyaf agored i niwed o fewn ein cymuned. Cynhelir archwiliadau trwyadl iawn cyn pob apwyntiad fel rhan o'n proses recriwtio a dethol.

Mae gofyn i bob un o'n gweithwyr gydymffurfio gyda'u dyletswyddau unigol a sefydliadol yn
unol â'r Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol
perthnasol. Ni ddylid, ar unrhyw gyfrif, datgelu unrhyw faterion cyfrinachol na'u rhannu
gydag unrhyw berson anawdurdodedig na chwaith gyda thrydydd parti un ai yn ystod eich
cyflogaeth na chwaith wedi hynny heblaw mewn modd priodol yn ystod eich cyflogaeth neu
os fydd yn ofynnol o ganlyniad i'r gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r
ddau.