MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Glanhawr - Canolfan Y Bwlch

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £23,150 Gan gynnwys Ychwanegiad Cyflog Byw Go Iawn

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 500

Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin

Adran: Glanhau

Nifer y swyddi gwag: 1

Math o gontract: Parhaol Rhan-amser

Lleoliad: Llanelli

Gradd: Gradd A

Cyflog: £23,150 Gan gynnwys Ychwanegiad Cyflog Byw Go Iawn

Cyfradd yr awr: £12.00 Gan gynnwys Ychwanegiad Cyflog Byw Go Iawn

Oriau Contract: 4.5 awr yr wythnos

Dewch i ymuno â'n tîm
Mae'r Gwasanaeth Glanhau yn darparu gwasanaeth hanfodol ledled Sir Gaerfyrddin.

Mae'r tîm yn gyfrifol am gynnal safonau uchel o lendid a hylendid ar draws adeiladau'r Sir, gan gynnwys swyddfeydd, cartrefi preswyl a chyfleusterau masnachol i sicrhau y gall pobl fyw a gweithio mewn amgylcheddau glân a diogel.

Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol lygad craff am fanylion ac yn ymfalchïo mewn sicrhau bod pob ardal yn lân ac yn daclus. Mae dyletswyddau'n cynnwys dwsto, ysgubo, hwfro, mopio a gwagio biniau gwastraff yn ogystal ag ail-lenwi eitemau traul a glanhau'n drylwyr yn ôl yr angen. Byddwch yn gyfrifol am ddefnyddio offer glanhau, peiriannau a chemegau, gan ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch.

Bydd hefyd angen i chi:
  • Bod ag agwedd gadarnhaol a'r parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd.
  • Bod ag hyblygrwydd a'r parodrwydd i gynorthwyo gyda gofynion glanhau eraill.


I gael trafodaeth anffurfiol am ein swydd wag cysylltwch â'r gwasanaeth glanhau drwy ffonio 07920286909

Rydym yn cynnig cyflog cystadleuol, cyfleoedd ar gyfer twf a datblygiad gyrfa, a'r manteision canlynol:
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol.
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

I gael rhagor o wybodaeth am fanteision, ewch i'r dudalen we Manteision i Weithwyr (llyw.cymru)

Disgrifiad Swydd: 026490.pdf - 146KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 05/07/2024, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd


Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.