MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Croesty Primary School,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Uwch-swyddog Gweinyddol - Ysgol Gynradd Croesty
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £25,063 - £25,942 y flwyddyn
Uwch-swyddog Gweinyddol - Ysgol Gynradd CroestyDisgrifiad swydd
37 awr yr wythnos
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Croesty yn awyddus i benodi Uwch-swyddog Gweinyddol rhagorol, rhagweithiol a llawn cymhelliant.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sydd â disgwyliadau uchel, ymdeimlad o gydweithio a brwdfrydedd cadarnhaol, i ymuno â'n cymuned ysgol hapus a rhagweithiol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
gallu gweithio'n gadarnhaol gyda'n plant, tîm staff, rhieni/gofalwyr a'r gymuned;
bod yn rhagweithiol, yn hyblyg ac yn chwaraewr tîm;
â disgwyliadau uchel o'u hunain ac eraill, a byddant yn ymfalchïo yn eu rôl;
gallu rheoli a blaenoriaethu llwyth gwaith a bodloni terfynau amser;
meddu ar wybodaeth am Wybodaeth Reoli/Systemau Rheoli Ariannol SIMS;
cyfrifoldeb am reoli'r dderbynfa a'r swyddfa yn effeithlon, gan gysylltu â rhieni, staff ac amrywiaeth o asiantaethau allanol;
gallu gweithio yn ôl eu menter eu hunain; a
bod yn aelod gweithgar o dîm.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf 2024
Dyddiad llunio rhestr fer: 05 Gorffennaf 2024
Dyddiad Cyfweld: 18 Gorffennaf 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person