MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

CALU Ysgol Gymunedol Heolgerrig

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyflog: £29,269.00 - I: £31,364.00

Ysgol Gymunedol Heolgerrig (NOR 219)

Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (CALU)
Graddfa 5 SCP18 - 22
£29,269 - £31,364 per annum pro rata
19.5 awr (3 diwrnod)
h.y. 46.09% = £13,490 - £14,455

Rhan amser (3 diwrnod) a Thymor Penodol (1 Flwyddyn Academaidd i ddechrau ac yna ei adolygu)

Angen ar gyfer 2 Medi 2024 .

Mae'r Corff Llywodraethu am benodi CALU rhagorol yn rhan-amser sydd yn meddu ar y rhinweddau a'r sgiliau i weithio gyda thîm yr ysgol gyfan i gyflawni canlyniadau uchelgeisiol i'w ddisgyblion. Mae angen ymarferydd ysbrydoledig, ymroddedig a brwdfrydig arnom i adeiladu ar lwyddiant yr ysgol a bod yn ymrwymedig i'w datblygu i'r cam datblygu nesaf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gyflenwi CPA ar draws yr ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

• Yn ymarferydd ystafell ddosbarth ardderchog, egnïol a chanolbwyntiedig, sy'n gallu arwain dosbarthiadau cyfan,
• Meddu ar disgwyliadau uchel o'r holl ddisgyblion ym meysydd cyflawniad ac ymddygiad,
• Meddu ar allu i weithio'n rhagweithiol, cynllunio a chyflwyno gweithgareddau i alluogi disgyblion i wneud cynnydd,
• Marcio gwaith disgyblion yn effeithiol, gan ddefnyddio offer adborth ac asesu lle bo hynny'n briodol i sicrhau cynnydd,
• Meddu ar frwdfrydedd a'r gallu i ysbrydoli disgyblion i gyflawni'r canlyniadau gorau,
• Meddu ar wybodaeth gyfredol am drawsnewid ADY a'r Cwricwlwm i Gymru ,
• Meddu ar ddealltwriaeth o ddatblygu'r cwricwlwm, cynnydd ac asesu ac addysgeg,
• Meddu ar allu i addysgu'r Gymraeg yn y Cwricwlwm Cynradd,
• Meddu ar allu i weithio'n effeithiol gyda staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach.

Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein ar
www.merthyr.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725000 a'u dychwelyd, dim hwyrach na Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024.
E-bost: Human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk

Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd cyn y dyddiad cau.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg. Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, cysylltwch â ni i'n hysbysu os hoffech i'ch cyfweliad gael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson heb awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod neu wedi'ch cyflogaeth oni bai y bydd disgwyl i chi wneud hynny dan amodau eich cyflogaeth, pan fydd yn ofynnol, yn gyfreithiol i wneud hynny neu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall torri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn rhoi gwerth ar amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain i fod y Gyflogwr o Ddewis, yn ymroddedig i hyrwyddo a chynnwys cydraddoldeb cyfle ymhob agwedd o'n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i ymgeisio ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymrwymedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle gan sicrhau nad oes gwahaniaethu anghyfreithlon yn ystod y broses o ddewis a dethol ar sail oed, anabledd, rhywedd, hil, gogwydd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, dynodiad rhywedd a mynegiant, beichiogrwydd a mamolaeth.