MANYLION
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £23,151 - £23,886 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £23,151 - £23,886 / blwyddyn
Swyddog Hwb RygbiApplication Deadline: 5 July 2024
Department: Sports Academy
Employment Type: Contract Cyfnod Penodol
Location: Campws Graig
Reporting To: Cyfarwyddwr yr Academi a Grŵp Llywio Hwb Lleol URC
Compensation: £23,151 - £23,886 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain.
Rôl y Swyddog Hwb yw Galluogi Rygbi Cymru i Ffynnu a datblygu unigolion trwy gyflwyno rygbi'r undeb o fewn y sefydliad a'r gymuned leol.
Bydd yn ofynnol i'r Swyddog Hwb Alluogi Rygbi Cymru i ffynnu trwy weithgarwch sy'n ennyn diddordeb cyfranogwyr o bob gallu o fewn rhaglen rygbi sy'n gwbl gynhwysol. Bydd yn cynnwys datblygu unigolion fel hyfforddwyr, dyfarnwyr, gweinyddwyr a gwirfoddolwyr, yn ogystal â chyfranogwyr (waeth beth yw eu gallu a'u rhyw) gyda chysylltiadau sefydledig i'r holl fudd-ddeiliaid addysg, URC a Budd-ddeiliaid Cymunedol.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Mewn ysgol, yn bennaf bydd gofyn i'r Swyddog Hwb hyrwyddo a datblygu rygbi o fewn amser y cwricwlwm, a sefydlu gweithgarwch allgyrsiol sy'n ennyn diddordeb bechgyn a merched o bob gallu mewn rhaglen rygbi gwbl gynhwysol - gan gynnwys datblygu fel hyfforddwyr, dyfarnwyr, gweinyddwyr a gwirfoddolwyr, yn ogystal â chyfranogwyr gyda chysylltiadau sefydledig â darpariaeth clwb/clwstwr a chymuned.
- Bydd yn ofynnol i'r Swyddog Hwb yrru rhaglenni cyfranogi sy'n recriwtio neu'n cadw cyfranogwyr o fewn y gêm ar ôl 16 oed, tra hefyd yn cyfrannu at ddatblygu rygbi yn ehangach mewn ysgolion bwydo cysylltiedig, gan gynnwys datblygu hyfforddwyr, dyfarnwyr, gweinyddwyr a gwirfoddolwyr, gyda chysylltiadau sefydledig â darpariaeth clwb/clwstwr a chymuned
- Yng Ngholeg Sir Gâr, bydd y Swyddog Hwb yn darparu'r gwasanaeth canlynol i chwaraewyr lefel elit yr academi:
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Cymhwyster Hyfforddi Rygbi cyfredol ar Lefel 1 o leiaf
- Cymhwyster Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith (os heb y cymhwyster hwn, ymgymryd ag ef a'i gyflawni o fewn amserlen y cytunwyd arni)
- Cymhwyster gyrrwr bws mini MiDAS (os heb y cymhwyster hwn, ymgymryd ag ef a'i gyflawni o fewn amserlen y cytunwyd arni)
- Cymhwyster hyfforddi rygbi Lefel 2 URC/RFU (neu uwch)
- Cymryd rhan fel chwaraewr neu hyfforddwr mewn amgylchedd rygbi elit
- O leiaf 12 mis o brofiad yn gweithio ym maes datblygu a hyfforddi rygbi mewn academi neu mewn amgylchedd rygbi elit
- Profiad perthnasol o weithio ym maes datblygu chwaraeon a/neu ddatblygiad cymunedol
- Profiad o hyfforddi a/neu weithio gyda phlant a phobl ifanc
- Profiad o weithio gyda gwirfoddolwyr
- Profiad a dealltwriaeth o ofynion iechyd a diogelwch mewn amgylchedd rygbi neu chwaraeon
- Cymhwyster dyfarnwr rygbi (Lefel 1 URC)
- Hyfforddiant/cymhwyster Diogelu Plant a Phobl Ifanc
- Profiad fel hyfforddwr neu ddatblygwr gweithlu
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cynradd, uwchradd neu addysg bellach
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein