MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Sba CC/2617

Coleg Cambria

Cyflog: £26,388 - £28,374

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Goruchwyliwr Sba

Lleoliad: Iâl

Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Cyflog: £26,388 - £28,374

Mae safle Iâl Coleg Cambria yn chwilio am Oruchwyliwr Sba pwrpasol i arwain ein 'Sba Iâl' o'r radd flaenaf. Bydd y swydd hon yn llywio strategaeth ac yn creu profiad unigryw i ddysgwyr wrth wneud y mwyaf o gyfleoedd masnachol. Yn y swydd hon, byddwch chi'n arwain ac yn datblygu'r tîm sba gan feithrin diwylliant cadarnhaol a sicrhau cysondeb â nodau a safonau'r diwydiant. Mae eich cyfrifoldebau'n cynnwys darparu gwasanaeth eithriadol i gwsmeriaid, goruchwylio gweithgareddau dyddiol, gosod nodau clir, monitro a chynnal adolygiadau perfformiad, a chefnogi gyda chyflogi staff newydd a chynefino. Byddwch chi'n fodel rôl ac yn fentor i ddysgwyr sy'n astudio yn yr adran, gan ddangos safonau diwydiant eithriadol. Byddwch chi hefyd yn mynd i'r afael â chwynion cleientiaid yn brydlon, yn goruchwylio dyletswyddau derbynfa, yn cynnal ymgynghoriadau cleientiaid, yn darparu gwasanaethau ac yn llywio gwerthiannau cynnyrch a thriniaethau i gyrraedd targedau.

Fel prif gyswllt i staff a myfyrwyr, byddwch chi'n tywys dysgwyr, yn nodi gweithgareddau cyfoethogi, ac yn cyfrannu at hysbysebu, cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau i hybu gwelededd a delwedd brand y sba. Byddwch chi'n cynnal stocio rheolaidd, yn rheoli lefelau stocrestr, ac yn cydweithio â chyflenwyr i sicrhau caffael cost-effeithiol. Bydd eich sylw at reoli rhestr eiddo yn sicrhau gweithrediadau llyfn, gan warantu bod cynnyrch ar gael wrth gynnal dull strategol o reoli stoc.

Byddwch chi'n meithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid a grwpiau cymunedol i hwyluso gweithdai, arddangosiadau a sesiynau rhwydweithio, gan gefnogi'r holl hyrwyddiadau a digwyddiadau adrannol. Os ydych chi'n angerddol am reoli sba, datblygu tîm, a darparu gwasanaeth eithriadol, gwnewch gais rŵan i ymuno â'n sefydliad addysgol blaengar a dod yn rhan hanfodol o'n tîm ar safle Iâl Coleg Cambria.

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 o leiaf yn seiliedig ar Therapi Harddwch neu Sba
  • Graddau A-C mewn Mathemateg a Saesneg TGAU neu gyfwerth
  • Profiad diweddar profedig mewn swydd oruchwylio yn y diwydiant sba. Profiad mewn gwasanaethau i gwsmeriaid a rheoli stoc
  • Sgiliau arwain a datblygu tîm cadarn
  • Galluoedd marchnata a gwerthu cadarn

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig