MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 05 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Teaching Assistant Level 2

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Cyflog: Gradd 3 (SCP 3-5) - £16,324 - £16,871 y flwyddyn

SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2

Dros Dro am Flwyddyn

30 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)

Cyf y Swydd: POSN1014816

I ddechrau: 1af o Fedi 2024

Mae'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â'r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i'r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd weithio yn y Clwb Gofal ar ôl ysgol am 2 awr bob pythefnos

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos cefnogol yr ysgol.

Mae'r swydd yma am 30 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Dyddiad Cau: 12.00 canol dydd, Dydd Gwener, Gorffennaf 5ed 2024

The above post is for a Teaching Assistant at YGG Castell Nedd for which the ability to speak Welsh is essential