MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth, SY23 3BP
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £10,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Aseswr mewn Gofal Plant

Coleg Sir Gar

Cyflog: £13,015 / blwyddyn

Aseswr mewn Gofal Plant
Application Deadline: 3 July 2024

Department: Childcare

Employment Type: Cyfnod Penodol - Rhan Amser

Location: Campws Aberystwyth

Reporting To: Pennaeth Aberystwyth

Compensation: £13,015 / blwyddyn

DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain.

Mae hon yn rôl gyffrous sydd wedi'i chynllunio i gefnogi'r gwaith parhaus o gyflwyno ac asesu (Lefel 2 - 4 cymwysterau ymarfer CCPLD) yn y gweithle a rhaglenni prentisiaeth ar draws y gyfadran. Byddwch yn darparu cymorth trwy sicrhau bod ansawdd rhaglenni yn bodloni'r safonau gofynnol yn fewnol ac yn allanol hefyd er mwyn darparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau oll i'n dysgwyr.

Rhaid i ddeilydd y swydd ddangos menter, sgiliau trefniadol da a sgiliau rheoli amser cadarn. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio i lwyth achosion y cytunwyd arno ac fel y cyfryw gofynnir iddo/iddi weithio'n helaeth oddi ar y safle i ateb galwadau'r rôl. Cytunir nifer union y llwyth achosion gyda Thîm Rheoli'r Gyfadran a'r Uwch IQA a bydd yn amrywio yn ôl dosbarthiad daearyddol y prentisiaid a'r teithio y mae hyn yn ei olygu, ond bydd o gwmpas rhwng 45 a 50 o ddysgwyr.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Cynllunio, monitro a gwerthuso cynnydd dysgwyr yn erbyn eu fframwaith
  • Cysylltu â chyflogwyr a dysgwyr ynglŷn â chynnydd dysgwr
  • Cynorthwyo gyda rheolaeth hyfforddiant penodedig yn y gweithle a / neu'r coleg a monitro cyflwyniad y rhaglen brentisiaeth.
  • Cysylltu â rheolwyr, athrawon, aseswyr a dysgwyr i sicrhau cwblhau a chyflawni'n effeithiol.
  • Cynnal asesiad o'r dysgwyr yn eich galwedigaeth arbenigol, ar y safle ac yn y coleg.
  • Gweithio gyda llwyth achosion a neilltuwyd i chi o hyd at o leiaf 45 o ddysgwyr neu brentisiaid.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • NVQ Lefel 2-5 neu uwch
  • 3 blynedd o brofiad diwydiannol perthnasol o fewn y maes galwedigaethol
  • Dyfarniadau Aseswr (Ar gyfer ymgeiswyr newydd nad ydynt yn meddu ar Ddyfarniad Aseswr, darperir cefnogaeth gan y coleg i gyflawni'r safonau gofynnol o fewn ffrâm amser gytunedig)
  • TGAU Saesneg ac Mathemateg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
  • Gallu defnyddio ystod o systemau a phecynnau TG yn gymwys, gan gynnwys Microsoft WORD, EXCEL, pecynnau pwrpasol a rhaglenni cwmwl
Dymunol:
  • IOSH Rheoli'n Ddiogel
  • Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
  • Cymhwyster Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu (ble bo'n ofynnol) i'w gyflawni o fewn 12 mis
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus sy'n dangos cymryd rhan mewn gweithgareddau i gynnal y wybodaeth a'r sgiliau diweddaraf am arferion, cynnyrch a chyfarpar y diwydiant
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein