MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Cwmfelin Primary,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £0.00 - £10,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Cwmfelin - Dros Dro
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £2,678 y flyddyn
Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Cwmfelin - Dros DroDisgrifiad swydd
5 awr yr wythnos
Dros dro hyd at 1 flwyddyn
Amser Tymor
Mae Ysgol Gynradd Cwmfelin am benodi Cynorthwyydd Goruchwylio i weithio yn ystod amser cinio, rhwng 12pm a 1pm, bob dydd, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.
Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf 2024
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 15 Gorffennaf 2024
Dyddiad y Cyfweliad: 18 Gorffennaf 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person