MANYLION
- Lleoliad: Carmarthen, SA32 8NJ
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £13,015 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Awst, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £13,015 / blwyddyn
Aseswr yn Peirianneg AmaethyddolApplication Deadline: 5 August 2024
Department: Amaethyddiaeth
Employment Type: Parhaol - Rhan Amser
Location: Campws Y Gelli Aur
Reporting To: Pennaeth Amaeth a Peirianneg Amaethyddol
Compensation: £13,015 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain.
Mae hon yn rôl gyffrous sydd wedi'i chynllunio i gefnogi'r gwaith parhaus o gyflwyno ac asesu NVQs yn y gweithle a rhaglenni prentisiaeth ar draws y gyfadran. Byddwch yn darparu cymorth trwy sicrhau bod ansawdd rhaglenni yn bodloni'r safonau gofynnol yn fewnol ac yn allanol hefyd er mwyn darparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau oll i'n dysgwyr.
Rhaid i ddeilydd y swydd ddangos menter, sgiliau trefniadol da a sgiliau rheoli amser cadarn. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio i lwyth achosion y cytunwyd arno ac fel y cyfryw gofynnir iddo/iddi weithio'n helaeth oddi ar y safle i ateb galwadau'r rôl. Cytunir nifer union y llwyth achosion gyda Thîm Rheoli'r Gyfadran a'r Uwch IQA a bydd yn amrywio yn ôl dosbarthiad daearyddol y prentisiaid a'r teithio y mae hyn yn ei olygu, ond bydd o gwmpas rhwng 45 a 50 o ddysgwyr.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cynllunio, monitro a gwerthuso cynnydd dysgwyr yn erbyn eu fframwaith
- Cysylltu â chyflogwyr a dysgwyr ynglŷn â chynnydd dysgwr
- Cynorthwyo gyda rheolaeth hyfforddiant penodedig yn y gweithle a / neu'r coleg a monitro cyflwyniad y rhaglen brentisiaeth.
- Cysylltu â rheolwyr, athrawon, aseswyr a dysgwyr i sicrhau cwblhau a chyflawni'n effeithiol.
- Cynnal asesiad o'r dysgwyr yn eich galwedigaeth arbenigol, ar y safle ac yn y coleg.
- Gweithio gyda llwyth achosion a neilltuwyd i chi o hyd at o leiaf 45 o ddysgwyr neu brentisiaid.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- NVQ Lefel 3-5 neu uwch
- 3 blynedd o brofiad diwydiannol perthnasol o fewn y maes galwedigaethol
- Dyfarniadau Aseswr (Ar gyfer ymgeiswyr newydd nad ydynt yn meddu ar Ddyfarniad Aseswr, darperir cefnogaeth gan y coleg i gyflawni'r safonau gofynnol o fewn ffrâm amser gytunedig)
- TGAU Saesneg ac Mathemateg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
- Gallu defnyddio ystod o systemau a phecynnau TG yn gymwys, gan gynnwys Microsoft WORD, EXCEL, pecynnau pwrpasol a rhaglenni cwmwl
- IOSH Rheoli'n Ddiogel
- Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
- Cymhwyster Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu (ble bo'n ofynnol) i'w gyflawni o fewn 12 mis
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus sy'n dangos cymryd rhan mewn gweithgareddau i gynnal y wybodaeth a'r sgiliau diweddaraf am arferion, cynnyrch a chyfarpar y diwydiant
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein