MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Lles a Diogelu Myfyrwyr

Coleg Penybont

Cyflog: Llawn amser (37 awr) ac Amser Tymor yn Unig am 42 wythnos Cyfnod Penodol hyd at 31ain Awst 2025 Ar gyfer y contract 42 wythnos lawn byddai hyn yn £25,456.84 - £30,833.97.

Arweinydd Lles a Diogelu Myfyrwyr

Disgrifiad o'r swydd Arweinydd Lles a Diogelu Myfyrwyr

Graddfa Gyflog 5/6: £27,492 - £33,299 (pro rata)

Llawn amser (37 awr) ac Amser Tymor yn Unig am 42 wythnos

Cyfnod Penodol hyd at 31ain Awst 2025

Sylwch, bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar nifer yr wythnosau a weithiwyd yn ystod y tymor yn unig.

Ar gyfer y contract 42 wythnos lawn byddai hyn yn £25,456.84 - £30,833.97.

Pwrpas y Swydd: Sicrhau bod y coleg yn amgylchedd diogel a chynhwysol i bob myfyriwr, hwyluso gwasanaeth llesiant a diogelu hygyrch ac anfeirniadol ac ymateb i bob pryder diogelu gan ddilyn y canllawiau a’r ddeddfwriaeth briodol.

Lefel Diogelu: Lefel 3 / Arweinydd Diogelu Dynodedig

Meini Prawf Hanfodol:

  • Hanes profedig o weithio gyda phobl ifanc mewn sefyllfaoedd grŵp ac unigol
  • Gwybodaeth a phrofiad o gyflwyno gwybodaeth a chyfeirio pobl ifanc at sefydliadau priodol
  • Gwybodaeth a phrofiad o rwydweithio ag unigolion ac asiantaethau
  • Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar oedolion ifanc
  • Gwybodaeth a phrofiad o Ddeddfwriaeth Diogelu (Plant ac Oedolion) a Prevent
Am ragor o wybodaeth, gweler y pecyn gwybodaeth swydd .

Dyddiad cyfweliad: 22/07/2024

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb i sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr o wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Manylach ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym yn ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o gefndiroedd a chymunedau gwahanol, ac o oedrannau gwahanol.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a’u hystyried ar sail eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol drwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.

Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa’r DU felly, bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u Hawl i Weithio yn y DU os cynigir rôl gyda ni.

Sylwch y gallai fod angen cyfweliad neu asesiad ail gam.