MANYLION
- Lleoliad: Pencoed,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £12,313 - £22,010 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £12,313 - £22,010 y flwyddyn
Prentis Gweinyddol Busnes Lefel 3 DSWDisgrifiad o'r swydd Prentis Gweinyddu Busnes Lefel 3
Llawn Amser Chyfnod Penodol am 2 Flynedd
Cyflog: £12,313 - £22,010 y flwyddyn
Ydych chi am roi sbardun i’ch gyrfa yn y maes Gweinyddu Busnes? Os ydych, mae swydd berffaith gennym yma yng Ngholeg Penybont.
Gyda’r cyfle cyffrous hwn, byddwch yn ymgymryd â Phrentisiaeth Gweinyddu Busnes Lefel 3 gyda’n tîm gweinyddol ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngholeg Penybont.
Ar ben hynny, byddwch yn ennill sgiliau a phrofiad amhrisiadwy a fydd yn sbarduno ac yn symud eich gyrfa yn ei blaen.
Bydd gennych o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch neu gyfwerth, ac mae’n rhaid i’r rhain gynnwys Saesneg a Mathemateg. Yn ogystal â sgiliau trefnu a TG ardderchog, bydd gennych y gallu a’r hyder i weithio â systemau gweinyddu.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.