MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £30,620 - £47,331
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad 'Rhagorol' yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Platinwm Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Darlithydd Cemeg
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Rhan Amser 10 awr yr wythnos (0.2703 FTE), Cyfnod Penodol (tan ddiwedd mis Mehefin 2025)
Cyflog: £30,620-£47,331 Pro Rata
Rydyn ni bellach yn recriwtio ar gyfer Darlithydd Cemeg ar ein safle Chweched Glannau Dyfrdwy.
I gael eich ystyried ar gyfer y swydd, rhaid i chi gael profiad profedig a chymhwysedd mewn darlithio Cemeg ar lefel Safon Uwch, yn ogystal â chymhwyster ar lefel gradd. Byddai'n ddymunol petai gennych sgiliau uwch gyda Bagloriaeth Cymru hefyd.
Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria, bydd gofyn i chi ddarparu gwaith dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i'n myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr bob amser.
Gofynion Hanfodol
- Cyflawni addysgu a drefnwyd, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu a goruchwylio arholiadau
- Darparu arweiniad addysgol, cymorth a chwnsela i bob myfyriwr a gweithredu fel tiwtor personol yn ôl y galw
- Cynorthwyo gyda recriwtio a chyfweld myfyrwyr yn ôl y gofyn
- Cymryd rhan mewn marchnata, cynllunio, asesu a gwerthuso darpariaeth cyrsiau
- Cysylltu â thiwtoriaid meysydd busnes eraill ynglŷn ag adnoddau, datblygu'r cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion perthnasol eraill
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl.
Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd.
Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n cwblhau'r cais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai