MANYLION
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £20.58 - £31.82 yr awr yn cynnwys tâl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad.
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd Astudiaethau Plentyndod

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £20.58 - £31.82 yr awr yn cynnwys tâl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad.

Rydym yn awyddus i benodi darlithydd/darlithwyr Addysg Uwch i gynnal sesiynau min nos ym maes Astudiaethau Plentyndod / Datblygiad ac Addysg Plant. Byddai prif bwyslais y swydd ar addysgu cyrsiau Addysg Uwch mewn Astudiaethau Plentyndod (lefel 4, 5, ac yna lefel 6).

Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad diweddar o weithio yn y sector Gofal Plant, neu ddisgyblaeth gysylltiedig, ac sydd â dealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaethau, polisïau a materion cyfredol yn y sector Datblygiad ac Addysg Plant.

Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unigolion a all gyflwyno pynciau fel: Datblygiad Plant, Annog Ymddygiad cadarnhaol, Datblygiad Proffesiynol Parhaus, Proffesiynoldeb, Hunaniaeth Broffesiynol a Gwaith Amlbroffesiwn, Safbwyntiau Addysg Cyfoes, Plentyndod Gwyrdd/Gynaliadwy, Cefnogi Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Bydd y swydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu fel darlithydd ym maes Datblygiad ac Addysg Plant o dan arweiniad a chyda chefnogaeth yr Arweinwyr Rhaglen, y Cydlynwyr a'r Mentoriaid sy'n gyfrifol am y ddarpariaeth yn yr adran. Byddai eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd diddorol i'n dysgwyr Addysg Uwch ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny. Anogwn y defnydd o ddulliau dysgu ac addysgu ymarferol a gweithredol er mwyn gwneud y dysgu'n ddiddorol. Cewch gyfle i gymhwyso eich gwybodaeth ac enghreifftiau o'ch profiadau i'r dysgu ac addysgu. Bydd hyn yn sicrhau bod ein dysgwyr Addysg Uwch yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad trylwyr o'r dyletswyddau, yr heriau a'r buddion sy'n gysylltiedig â dilyn gyrfa yn y sector Plentyndod.

Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu a gweithio yn y maes, ond rydym hefyd yn croesawu arbenigwyr yn y sector sy'n awyddus i fentro i'r maes addysgu. Nodir yn glir bod y sesiynau addysgu'n digwydd ar nos Fawrth / nos Iau rhwng 6pm a 9pm, felly fe allai'r swydd gyd-fynd â'ch gwaith ymarferol presennol a rhoi cyfle i chi wneud ychydig o addysgu bob wythnos fel bod y genhedlaeth sydd ar fin ymuno â'r sector yn gallu elwa ar eich arbenigedd.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/259/24

Cyflog
£20.58 - £31.82 yr awr yn cynnwys tâl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad.

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
Hawl Gwyliau wedi gynnwys yn y raddfa gyflog a nodir

Patrwm gweithio
Hyd at 6 awr yr wythnos, dydd Mawrth a / neu ddydd Iau. Byddai'r patrwm gwaith rhwng 6 yp a 9 yp. Maer pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad

Noder :- Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
25 Meh 2024
12:00 YH(Ganol dydd)