MANYLION
- Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £49,256 - £53,932 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £49,256 - £53,932 / blwyddyn
Pennaeth y Celfyddydau Creadigol a ChoginiolApplication Deadline: 9 July 2024
Department: Arall
Employment Type: Parhaol
Location: Campws Pibwrlwyd
Reporting To: Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Cwricwlwm
Compensation: £49,256 - £53,932 / blwyddyn
DescriptionMae Coleg Sir Gâr yn chwilio am unigolyn uchelgeisiol a llawn gweledigaeth i ymuno â'n sefydliad fel Pennaeth y Celfyddydau Creadigol a Choginiol. Fel darparwr blaenllaw addysg a hyfforddiant o ansawdd, rydym yn ymroddedig i feithrin doniau ein myfyrwyr a'u paratoi ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus ym meysydd Arlwyo, Lletygarwch, Celf a Dylunio sy'n datblygu'n barhaus. Os ydych yn frwd dros addysg, yn meddu ar brofiad da yn y diwydiant, ac mae gennych hanes profedig o ysbrydoli rhagoriaeth, estynnwn wahoddiad i chi gychwyn ar y daith gyffrous hon gyda ni yng Ngholeg Sir Gâr.
Fel Pennaeth y Celfyddydau Creadigol a Choginiol, bydd deilydd y swydd yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad a gweithrediad strategaethau, polisïau a gweithdrefnau'r Coleg ym meysydd Addysgu a Dysgu, y Cwricwlwm a Datblygu Cwricwlwm, Sicrhau ansawdd a Gwella Ansawdd a gwaith Masnachol. Gallai'r swydd olygu teithio helaeth ar draws Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, hyblygrwydd mewn oriau gwaith a bydd yn arwain at weithio o fewn y Brifysgol Sector Deuol.
Mae rôl y Pennaeth y Celfyddydau Creadigol a Choginiolyn cynnwys cyswllt a chydweithrediad â budd-ddeiliaid allweddol a chysylltiadau allanol. Mae'r coleg wedi datblygu partneriaethau helaeth sy'n ychwanegu gwerth, y bydd y rôl hon yn dylanwadu'n sylweddol arnynt.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Sefydlu a chynnal partneriaethau strategol gyda phartïon allanol, gan sicrhau perthnasoedd priodol gydag ysgolion, cyflogwyr a rhieni;
- Darparu cynllunio a rheolaeth weithredol effeithiol i fodloni amcanion strategol y Coleg, y Gyfarwyddiaeth a'r Cwricwlwm;
- Gyrru recriwtio dysgwyr ar draws y Cwricwlwm, gan hybu twf ac arloesedd yn unol â gwybodaeth am y farchnad a'r angen profedig am yr holl ddysgu AB, DSW, AU, 14-19 a dysgu masnachol;
- Addysgu nifer o oriau sy'n gymesur â swydd Pennaeth Cwricwlwm;
- Arwain datblygiad Addysgu a Dysgu yn y Cwricwlwm, gan sicrhau eu bod ar flaen y gad o ran syniadaeth gyfredol a thechnoleg ac yn arwain at greadigrwydd ac arloesedd;
- Sicrhau bod y Cwricwlwm o fewn y maes yn cael ei gynllunio'n effeithiol, ei weithredu'n effeithlon ac yn bodloni anghenion yr economi leol a chenedlaethol;
- Sicrhau bod holl brosesau Sicrhau Ansawdd a Gwelliant y Coleg sy'n ymddangos yng Nghylch Ansawdd y Coleg yn cael eu bodloni o fewn y Maes Cwricwlwm, i raddfeydd amser cytunedig;
- Sicrhau bod y Maes Cwricwlwm yn ymdrechu i gael y canlyniadau a'r cyfraddau dilyniant uchaf posibl ar gyfer dysgwyr;
- Sicrhau rheoli'r holl adnoddau dynol a ffisegol o fewn y maes yn effeithlon ac yn effeithiol, o fewn cyllideb y cytunwyd arni;
- Cynorthwyo'r Deon i hyrwyddo gwaith y Gyfadran, gan sicrhau bod dathlu llwyddiant dysgwyr a staff yn cael ei uchafu;
- Sicrhau bod yr holl ofynion statudol a rheoleiddiol yn ymwneud ag Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd mewn perthynas â'r maes yn cael eu cymhwyso a'u dilyn, gan gynnwys y Polisi Ymweliadau Addysgol;
- Cynorthwyo'r Deon wrth sefydlu safonau disgyblu myfyrwyr priodol yn unol â pholisi'r Coleg;
- Cyfrannu at ystod o gyfarfodydd trawsgolegol;
- Cefnogi ymgyrch y Coleg i gynyddu incwm nad yw'n incwm craidd drwy gynnwys y Maes Cwricwlwm mewn ystod o weithgareddau cynhyrchu incwm;
- Ymwneud ag ystod o fesurau lleihau costau a'u sefydlu, a hynny heb effeithio ar ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer ei ddysgwyr;
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Gradd/HND neu Gymhwyster Cyfwerth
- Cymhwyster Addysgu
- O leiaf tair blynedd o brofiad perthnasol o reoli cwricwlwm gan gynnwys cyflwyno a gweithredu mentrau newydd
- O leiaf tair blynedd o brofiad o ddatblygu cwricwlwm
- Profiad o weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau allanol
- Profiad o ddatblygu gweithgarwch cynhyrchu incwm mewn amgylchedd addysgo
- Cyfathrebwr ardderchog â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i arwain tîm sydd ar wasgar yn ddaearyddol
- Lefel uchel o gywirdeb personol a chyfrinachedd
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr uwch
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Dealltwriaeth o ddatblygiadau mewn AB, AU, Dysgu Seiliedig Ar Waith a'r sector 14-19
- Arwain trwy esiampl, gan osod safonau uchel o ran proffesiynoldeb
- Dangos dull cadarnhaol, agored a chefnogol o reoli
- Gwerthfawrogi a meithrin creadigrwydd mewn eraill
- Annog ac ysgogi eraill i rannu perchnogaeth a chyfrifoldeb dros wasanaeth
- Herio a datrys perfformiad llai na boddhaol
- Datblygu perthnasoedd gwaith da
Yr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 37 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 50 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein