MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa Gyflog 5: £27,492 - £30,185 pro rata y flwyddyn (Cyflog Gwirioneddol yn seiliedig ar weithio 40 wythnos y flwyddyn - £24,244 - £26,618 y flwyddyn)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Cynnydd

Coleg Penybont

Cyflog: Graddfa Gyflog 5: £27,492 - £30,185 pro rata y flwyddyn (Cyflog Gwirioneddol yn seiliedig ar weithio 40 wythnos y flwyddyn - £24,244 - £26,618 y flwyddyn)

Hyfforddwr Cynnydd

Disgrifiad o'r swydd Hyfforddwr Cynnydd x 2
Llawn Amser (37 awr yr wythnos) ac Amser Tymor yn Unig (40 wythnos)
Cyfnod Penodol tan 31 Awst 2025

Graddfa Gyflog 5: £27,492 - £30,185 pro rata y flwyddyn
(Cyflog Gwirioneddol yn seiliedig ar weithio 40 wythnos y flwyddyn - £24,244 - £26,618 y flwyddyn)


Mae gennym gyfle cyffrous i 2 Hyfforddwr Cynnydd brwdfrydig ymuno â’n timau cymorth myfyrwyr, gan gefnogi dysgwyr o fewn y Celfyddydau Creadigol ac Adeiladwaith.

Pwrpas y Swydd:

Hyrwyddo cynnydd a llwyddiant myfyrwyr trwy reoli taith dysgwr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer llwyth achosion o fyfyrwyr, gan eu galluogi i fod yn bopeth y gallant fod.

Datblygu a chefnogi lles personol, cymdeithasol ac emosiynol myfyrwyr, gan feithrin eu hyder, eu gwydnwch a’u sgiliau craidd trwy Addewid y Rhaglen Ddysgu.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.