MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £23,893.00 - I: £23,893.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu, Ysgol Gatholig y Bendigaid Carlo Acutis
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyflog: £23,893.00 - I: £23,893.00
Ysgol Gatholig y Bendigaid Carlo AcutisCampws y Santes Fair
Heol Caedraw
Merthyr Tudful
CF47 8HA
Pennaeth Gweithredol: Mrs. S Hopkins
Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu yn cefnogi disgyblion ag ADY (Lefel 2)
Bydd angen cychwyn y swydd ym Medi 2024
2 Swydd
Cyfnod Penodol o Flwyddyn Lefel 2
Gradd 2 SCP 6 £23,893 y flwyddyn pro rata
65% o £23,893 = £15,530 y flwyddyn.
Yn Ystod y Tymor yn unig 27.5 awr yr wythnos
Bydd y rôl yn cynnwys:
• Goruchwylio a chefnogi grwpiau o blant ar draws yr ystod oedran cynradd.
• Helpu i gynllunio a gweithredu gweithgareddau dysgu ar draws yr ystod oedran cynradd.
• Darparu rhaglenni ymyrryd.
• Cynnal asesiadau disgyblion.
• Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
• Rhoi adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad o dan arweiniad yr athro.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
• Yn Babydd gweithredol neu wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ethos a chenhadaeth ein Hysgol Gatholig.
• Yn drefnus a chanddynt sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
• Yn gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm ymroddedig, gweithgar.
• Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac, yn dibynnu ar y swydd, yn gallu gweithio o dan arweiniad a chyfeiriad Pennaeth y Campws, Cydlynydd EAL / Arweinydd Cyfnod Sylfaen / ALNCo a'r athro dosbarth.
• Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol da iawn, byddwch yn hyderus, yn ddibynadwy ac yn hyblyg.
• Bydd eich hyfforddiant Read Write Inc yn gyfredol
• Byddwch yn gallu dangos sgiliau llythrennedd a rhifedd rhagorol.
• Byddwch yn wybodus o weithdrefnau diogelu ysgolion.
• Byddwch yn gallu dangos lefel uchel o fenter bersonol.
• Byddwch yn ddibynadwy ac yn broffesiynol.
• Byddwch yn cymryd rhan weithredol ym mywyd yr ysgol.
Am ragor o wybodaeth ynghylch y swydd cysylltwch â:
Mrs. Claire Cope - Pennaeth Campws Santes Fair 01685 351870
Bydd disgwyl i ymgeiswyr ar y rhestr fer gyflwyno gweithgaredd grwp 20 munud ac yna cyfweliad ffurfiol.
Mae croeso i ymgeiswyr sydd â diddordeb ymweld â'r ysgol ddydd Llun 10 Mehefin 2024 am 3.30pm. Cysylltwch â Mrs Newland yn swyddfa'r ysgol ar 01685 351870 os ydych yn dymuno mynychu.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 14 Mehefin 2024
Penderfynir ar y rhestr fer ddydd Llun 17 Mehefin 2024
Cynhelir y cyfweliadau ddydd Llun 24 Mehefin 2024
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a bennir fel rhai hanfodol.
Gellir llenwi ffurflenni cais ar-lein yn www.merthyr.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch gael gafael ar ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725000 a'u dychwelyd erbyn dydd Gwener 14 Mehefin 2024 fan bellaf i Weinyddiaeth Adnoddau Dynol / HR Administration, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Rydym yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag cyn y dyddiad cau.
E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw geisiadau a gwblheir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn Saesneg.
Os ydych yn cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiannus ac felly yn cael gwahoddiad i gyfweliad, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk i roi gwybod i ni os hoffech i'ch cyfweliad gael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i ddiogelu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Gwneir gwiriadau cyn-cyflogaeth trwyadl ar gyfer pob apwyntiad fel rhan o'n proses recriwtio a dethol.
Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio gyda'u cyfrifoldebau unigol a chyfrifoldebau'r sefydliad yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth ac unrhyw bolisïau gweithredol perthnasol eraill sy'n cefnogi'r rhain.