MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu (Wedi'i ariannu'n ganolog) Ysgol Afon Wen

Rhondda Cynon Taf
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu (Wedi'i ariannu'n ganolog) Ysgol Afon Wen

Disgrifiad Swydd
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu (Wedi'i ariannu'n ganolog) Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4 ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Afon Wen

Awr: 32.5 awr yr wythnos, parhaol (tymor yr ysgol)

Graddfa Gyflog: Gradd 6 pro rata (ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig) (£25,979 + £1455 x 77.15%)

Dyddiad dechrau: 1 Medi 2024

Rydyn ni'n dymuno cyflogi cynorthwy-ydd cynnal dysgu ar gyfer y ddarpariaeth uchod. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo'r athro/athrawes ddosbarth i weithredu rhaglenni unigol, a bod yn gefn i'r disgyblion yn eu dosbarthiadau nhw ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd.

Os ydych chi'n angerddol am ddysgu a lles plant ac eisiau eu helpu nhw i ffynnu a llwyddo; yn unigolyn sy'n cael ei arwain gan werthoedd gyda disgwyliadau uchel o gyflawniad am eich hun ac eraill; yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a gwrando ardderchog ac yn gweithio'n dda yn rhan o dîm sy'n fodlon cymryd rhan ym mywyd llawn yr ysgol, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion.

Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Rachel Williams: Rachel.Williams3@rctcbc.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Iau 16 Mai 2024 am 12.00 hanner nos.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.