MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth, SY23 3BP
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Technegydd Cyfryngau Creadigol

Coleg Sir Gar
Technegydd Cyfryngau Creadigol
Application Deadline: 23 May 2024

Department: Cyfadran o Creadigrwydd & Sgiliau

Employment Type: Contract Cyfnod Penodol

Location: Campws Aberystwyth

Reporting To: Pennaeth Aberystwyth

Compensation: £15,642 - £16,139 / blwyddyn

DescriptionMae'r Gyfadran Creadigrwydd a Sgiliau yng Ngholeg Ceredigion am benodi Technegydd Cyfryngau Creadigol dynamig, blaengar a fydd yn cefnogi'r ddarpariaeth Cyfryngau a Chelf ar Gampws Aberystwyth. Dylai ymgeiswyr allu ymgymryd â phrosesau ffilmio, cipio, golygu ac allgludo fideos. Dylent fod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o gyfarpar cyfryngau fel camerâu a chyfarpar sain. Byddai arbenigedd mewn caledwedd a meddalwedd Apple yn arbennig o bwysig, a byddai gwybodaeth am rai o'r systemau a'r pecynnau cymwysiadau poblogaidd yn ddelfrydol.

Mae'r swydd yn cynnig cyfle cyffrous a llawn her i berson â meddwl technegol sy'n hoffi datrys problemau ac sy'n hapus i gydweithio o fewn amgylchedd tîm yn ogystal â gweithio'n annibynnol.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Darparu cefnogaeth i'r timau Cyfryngau Creadigol a Chelf i gynorthwyo gyda rheoli, cynnal a chadw a diogelwch cyfarpar clyweledol;
  • Darparu cyngor, arweiniad a chymorth ar faterion caledwedd a meddalwedd a godir gan staff a dysgwyr. Nodi a thrwsio namau meddalwedd a chaledwedd yn gyflym ac yn effeithlon gyda chymorth canolog lle bo angen;
  • Ymgymryd â gosod a ffurfweddu pob caledwedd cyfrifiadurol newydd mewn perthynas â'ch maes cyfrifoldeb er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu i'r safon ansawdd uchaf;
  • Cynnal a chadw amgylchedd gwaith glân a diogel, gan gydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch;
  • Paratoi, cynnal a diweddaru dogfennau Iechyd a Diogelwch perthnasol megis Asesiadau Risg, Systemau Gwaith Diogel, cofnodion COSHH a chofnodion cynnal a chadw cyfarpar, trwy gysylltu â thimau cwrs;
  • Cymryd rhan mewn parhau i ddysgu am holl gynhyrchion a gwasanaethau Apple i sicrhau y darperir y lefel uchaf o gyngor ac arweiniad

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Cymhwyster Lefel 3 o leiaf (Safon Uwch /Diploma Cenedlaethol BTEC) neu 3 blynedd o brofiad diwydiannol mewn maes cysylltiedig
  • TGAU Saesneg ac Mathemateg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
  • Profiad diweddar a pherthnasol o weithio gyda thechnoleg Apple
  • Bod yn gymwys wrth ddefnyddio'r cyfarpar canlynol: Camerâu digidol ar gyfer lluniau llonydd a fideo, meddalwedd golygu ac animeiddio
  • Cyfathrebwr da gyda diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfnu da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Y gallu i weithio'n hyblyg
Dymunol:
  • BA Anrh/HNC/HND mewn maes cysylltiedig
  • Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch priodol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant priodol)
  • Cymhwyster Cymorth Cyntaf (Os nad oes gennych gymhwyster Cymorth Cyntaf, parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
  • Dealltwriaeth dda o'r rôl cymorth technegol mewn Addysg Bellach ac Uwch
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein