MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £27,186 - £29,500 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Tachwedd, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Asesydd Cyflogadwyedd (e-Ddysgu)

Coleg Sir Gar

Cyflog: £27,186 - £29,500 / blwyddyn

Asesydd Cyflogadwyedd (e-Ddysgu)
Application Deadline: 5 November 2024

Department: Business Development and Innovation

Employment Type: Contract Cyfnod Penodol

Location: Campws Graig

Reporting To: Rheolwr Cyflogadwyedd

Compensation: £27,186 - £29,500 / blwyddyn

DescriptionMae'r Bwrdd Corfforaethol wedi ymrwymo i benodi staff a fydd yn arddangos menter a brwdfrydedd, ac yn gwella enw da'r Coleg ymhellach trwy ymrwymiad i weithio fel aelod o'r tîm a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel. Mae'r swydd yn rhoi cyfle cyffrous a heriol i berson rhagweithiol ac arloesol.

Mae'r Bwrdd Corfforaethol wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad mewn dysgu trwy ddefnyddio cyrsiau e-Ddysgu yn rhagweithiol. Mae'r gweithgarwch hwn wedi bod yn tyfu'n gyson dros y 10 mlynedd diwethaf ac erbyn hyn mae cyfle i berson brwdfrydig ac arloesol chwarae rhan bwysig yn natblygiad pellach y gweithgarwch hwn. Gan weithio'n agos gyda'r Rheolwr Cyflogadwyedd byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o redeg y gweithgaredd e-Ddysgu wyneb yn wyneb yn esmwyth ledled rhanbarth De Cymru.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Cymryd rhan, dan arweiniad y Rheolwr Cyflogadwyedd yn y gwaith o gofrestru, hyfforddi, cynghori a chefnogi dysgwyr cyflogadwyedd. Cynnig cyngor ac arweiniad, eu cofrestru ar y cwrs mwyaf priodol, esbonio'r amgylchedd dysgu a sicrhau bod yr holl weithdrefnau a systemau yn cael eu cynnal yn gywir a'u diweddaru pan fo angen;
  • Cysylltu â staff addysgu, partneriaid cymunedol a myfyrwyr i sicrhau bod cofrestriad myfyrwyr yn cael ei gofnodi'n ofalus, diweddaru ffeiliau a chofnodi gohebiaeth sy'n cael ei hanfon;
  • Darparu hyfforddiant/gweithdai â ffocws ymarferol, gan ddefnyddio deunyddiau dysgu ac asesu y cytunwyd arnynt sy'n cael eu paratoi gan Ffynhonnell y Cwrs;
  • Trefnu a goruchwylio gweithdrefnau profi priodol ar gyfer cyrsiau Ffynhonnell y Cwrs, os oes angen;
  • Cynnal cofnodion cywir ar gyfer cofnodi cyflwyno, olrhain a chyfathrebu â dysgwyr ac adrodd ffigyrau rheolaidd a chywir. Sicrhau bod manylion dysgwyr unigol yn cael eu diweddaru a chynnal cofnodion o gynnydd dysgwyr;
  • Cyfrannu at gynllunio busnes a marchnata e-Ddysgu, gan gefnogi'r Rheolwr Cyflogadwyedd i hyrwyddo e-Ddysgu yn weithredol, yn y coleg, DWP, a'r gymuned i ddatblygu cyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb ac o bell;
  • Sicrhau bod tystiolaeth a systemau priodol ar waith yn ôl yr angen i'w harchwilio;
  • Mynychu digwyddiadau hyfforddi a diweddaru gwybodaeth yn rheolaidd trwy borth a deunydd printiedig partner Ffynhonnell y Cwrs i sicrhau bod prosesau gweinyddu'n gyfredol;
  • Gweithio gyda'r holl staff cyflogadwyedd eraill i greu awyrgylch croesawgar a phwrpasol sy'n annog dysgu agored a hyblyg;
  • Dosbarthu deunyddiau cyfarwyddyd, taflenni cymorth a hysbysiadau ar gyfer myfyrwyr cyflogadwyedd fel y bo'n briodol

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Cymhwyster TG Lefel 2 o leiaf
  • Sgiliau Gofal Cwsmer Ardderchog
  • Cymhwysedd amlwg mewn ystod o systemau/pecynnau TG
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol gan gynnwys DWP
  • Cyfathrebwr da gyda diplomyddiaeth a phwyll
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfnu da
  • Y gallu i weithio'n gytûn ag uwch gydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau a bodloni terfynau amser tynn
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Y gallu i ddangos hyder a meithrin perthnasoedd cadarnhaol
Dymunol:
  • Lefel 4, HNC/D neu Radd
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein