MANYLION
  • Lleoliad: Bryncethin Primary School,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Uwch-swyddog Safle - Ysgol Gynradd Bryncethin

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Uwch-swyddog Safle - Ysgol Gynradd Bryncethin
Disgrifiad swydd
14 awr yr wythnos

Swydd ran-amser yw hon am ddau ddiwrnod yr wythnos. Bydd yr oriau wedi'u rhannu rhwng bore a phrynhawn i hwyluso agor a chau safle'r ysgol.

Diwrnodau gwaith

Dydd Mercher: 6am - 9.30am a 2.30pm - 6pm

Dydd Iau: 6am - 9.30am a 2.30pm - 6pm

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi person dibynadwy, trefnus ac sydd â hunangymhelliant i gymryd cyfrifoldeb bod yn Uwch-swyddog Safle rhan-amser yn ein hysgol.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos sgiliau hunanreoli gwych, ymwybyddiaeth o faterion iechyd a diogelwch a'r gallu i weithio fel tîm gydag aelodau eraill o staff. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl hanfodol yn yr ysgol ac yn cyfrannu at ethos a nodau'r ysgol.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae Ymateb Brys yn un o ofynion y swydd hon.

Dyddiad Cau: 29 Mai 2024

Bydd rhestr fer yn cael ei llunio yn yr wythnos sy'n dechrau: 3 Mehefin 2024

Bydd cyfweliadau yn yr wythnos sy'n dechrau: 10 Mehefin 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person