MANYLION
  • Lleoliad: Tremains Primary School,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Tremains

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Tremains
Disgrifiad swydd
3 x swydd ar gael

5 awr yr wythnos

Yn ystod tymor yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Tremains yn ceisio penodi tri Chynorthwyydd Goruchwylio i weithio am awr yn ystod amser cinio, rhwng 11.45am a 2.00pm bob dydd, yn ystod tymor yr ysgol yn unig. 

Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â goruchwylio'r plant yn ystod amser cinio ynghyd â chynnwys disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae.

Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant. 

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 22 Mai 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person