MANYLION
  • Lleoliad: HAVERFORDWEST, Pembrokeshire, SA61 1SZ
  • Testun: Goruchwyliwr Arholiad Hŷn
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Misol
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 13 Chwefror, 2022 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Goruchwylwyr Arholiadau

Coleg Sir Benfro
Goruchwylwyr Arholiadau
Ar hyn o bryd mae Coleg Sir Benfro yn ceisio penodi Goruchwylwyr Arholiadau i gynorthwyo gyda goruchwylio arholiadau yn ôl yr angen trwy gydol y flwyddyn academaidd.

Manylion Cyflog: £12.13 yr awr
Oriau Gwaith: Oriau Amrywiol, yn ystod cyfnodau arholiadau – Mai, Mehefin, Tachwedd ac Ionawr. Yn ôl yr angen
Math o Gontract: Achlysurol—tâl fesul awr
Cymwysterau: Addysg sylfaenol dda

Manylion: Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos dull agos-atoch a phroffesiynol a bod â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol. Bydd gofyn i chi oruchwylio arholiadau, gan sicrhau bod canllawiau a rheoliadau ynghylch cywirdeb a diogelwch y papurau a'r gweithdrefnau arholi yn cael eu dilyn. Felly, bydd lefel uchel o ddisgresiwn wrth drin data cyfrinachol ynghyd â'r gallu i gadw at ganllawiau caeth, yn hanfodol.

Darperir hyfforddiant goruchwylio yn unol â gofynion y rheolydd.

Mae hwn yn gontract oriau amrywiol a chysylltir ag ymgeiswyr llwyddiannus i gadarnhau eu bod ar gael yn unol â'r amserlen oruchwylio. Mae'r rôl hon yn gofyn am lawer o hyblygrwydd a bydd rhai misoedd yn brysurach nag eraill.

Mae Coleg Sir Benfro yn croesawu’r canlynol yn arbennig: ymgeiswyr sydd â sgiliau cyfathrebu llafar Cymraeg da / ymgeiswyr ag anableddau / Milwyr Wrth Gefn y Lluoedd Arfog / ymgeiswyr rhannu swyddi.
Mae'n ofynnol i holl weithwyr y Coleg ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion agored i niwed.