MANYLION
  • Lleoliad: HAVERFORDWEST, Pembrokeshire, SA61 1SZ
  • Pwnc: Prentisiaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Misol
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Prentisiaeth mewn Technoleg Gwybodaeth

Coleg Sir Benfro
Prentisiaeth mewn Technoleg Gwybodaeth Wedi lleoli o fewn Tîm Gwasanaethau Cyfrifiadurol y Coleg.

Ar hyn o bryd mae gan Dîm Gwasanaethau Cyfrifiadurol Coleg Sir Benfro gyfle cyffrous i unigolyn rhagweithiol a brwdfrydig i wneud cais am Brentisiaeth Technoleg Gwybodaeth. Bydd y rôl hon yn cynnig cyfle i ddatblygu ystod eang o sgiliau TG o fewn tîm hynod o brysur.
Os ydych chi'n hyderus ac yn frwdfrydig, heb brofiad gweinyddol ond yn chwilio am yrfa yn y maes hwn, gallai hyn fod ar eich cyfer chi. Mae Coleg Sir Benfro yn gyflogwr mawr a gall gynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer y dyfodol. I ddechrau, swydd am gyfnod penodol yw hon a fydd yn rhedeg trwy gydol y fframwaith cymwysterau (uchafswm o 18 mis).
Manylion Cyflog: Cyfradd prentis o £4.30 yr awr ar gyfer blwyddyn gyntaf y brentisiaeth. (Mae hyn i fod i godi i £4.81 o 1 Ebrill 2022). Ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf y brentisiaeth, byddant yn symud i’r gyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol os ydynt yn 19 oed neu’n hŷn hyd nes y cwblheir y Fframwaith neu ddyddiad terfyn y contract cyfnod penodol.
Math o Gontract: Llawn-amser (37 awr yr wythnos), cyflogedig, cyfnod penodol am 18 mis (o ddyddiad cychwyn y gyflogaeth)
Hawl Gwyliau: 28 diwrnod y flwyddyn ynghyd â gwyliau banc statudol
Cymwysterau: Yn ddelfrydol 5 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg. Cymhwyster TG Lefel 3 (neu'n gweithio tuag ato)
Manylion: Bydd y prentis a benodir yn ymrwymedig i weithio tuag at a chyflawni Fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 mewn Technoleg Gwybodaeth. Rhoddir mwy o fanylion am y Fframwaith yn y cyfweliad. Mae'r swydd hon wedi'i lleoli yn y Tîm Gwasanaethau Cyfrifiaduron yn y Coleg a bydd y person a benodir yn rhan annatod o'r tîm hwnnw gan gynorthwyo ar Ddesg Gymorth ag iddi seilwaith TG mawr a llawer o ddefnyddwyr.
Bydd y rôl yn seiliedig ar y Ddesg Gymorth a bydd angen dull hyblyg sy'n canolbwyntio ar dîm. Darperir hyfforddiant yn y gwaith, ynghyd â mynediad at hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol. Bydd Coleg Sir Benfro hefyd yn darparu'r fframwaith hyfforddi ffurfiol ar gyfer y brentisiaeth hon. Ar ôl cwblhau'r fframwaith yn llwyddiannus, rhoddir ystyriaeth i gynnig cyflogaeth barhaol yn y Coleg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, defnyddio’u menter eu hunain a chael dull trefnus o weithio. Mae blaenoriaethu tasgau yn hanfodol, ynghyd â sgiliau TG rhagorol.