MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £8,999 - £9,285 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £8,999 - £9,285 / blwyddyn
Cynorthwyydd Cymorth AddysgolApplication Deadline: 6 January 2025
Department: Cymorth Dysgu
Employment Type: Cyfnod Penodol - Rhan Amser
Location: Campws Rhydaman
Reporting To: Cydlynydd Cymorth Dysgu
Compensation: £8,999 - £9,285 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Prif bwrpas gweithio o fewn y Tîm Mynediad Sgiliau Byw'n Annibynnol yw hyrwyddo annibyniaeth a chefnogi dysgwyr sydd ag ystod o anghenion o natur gorfforol neu ddysgu. Mae gwella sgiliau llythrennedd a rhifedd y dysgwyr, ochr yn ochr â sgiliau byw'n annibynnol, o bwys allweddol i'w dilyniant.
Prif bwrpas y swydd yw darparu cymorth i fyfyrwyr sydd ag ystod o anawsterau dysgu ac anableddau. Mae'r swydd yn un heriol ac yn rhoi boddhad mawr hefyd. Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu gweithio fel rhan o dîm a chyfathrebu mewn gwahanol ffurfiau ac ar amrywiol lefelau.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Gynorthwyo myfyrwyr gyda rheoli amser a threfniadaeth bersonol;
- Helpu myfyrwyr gyda threfnu ffeiliau;
- Annog a chefnogi myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau casglu gwybodaeth;
- Darparu cymorth i fyfyrwyr i ddeall cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig;
- Helpu gyda phrawf-ddarllen gwaith a rhoi cyngor ynglŷn â gramadeg, sillafu ac atalnodi;
- Cludo a/neu hebrwng unigolion/grwpiau bach ar deithiau preswyl ac ymweliadau ble bo angen;
- Darparu cymorth meddygol a chymorth gofal personol i fyfyrwyr unigol - gyda chanllawiau a hyfforddiant priodol, yn ôl cyfarwyddyd aelod o'r tîm rheoli.
- Helpu i integreiddio unigolion/grwpiau bach sydd ag anghenion meddygol a chymorth dysgu i mewn i ddarpariaeth prif ffrwd;
- Annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau TGCh da er mwyn cyflwyno aseiniadau;Darparu goruchwyliaeth amser egwyl a/neu amser cinio; yn ôl y gofyn neu yn ôl cyfarwyddyd aelod o'r tîm rheoli;
- Darparu cymorth un-i-un neu gymorth cyffredinol yn y dosbarth, yn seiliedig ar angen y myfyriwr a chydweddu sgiliau;
- Trawsgrifio deunyddiau i fformatau hygyrch pan fo angen;
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Profiad perthnasol o weithio gyda unigolion ag anawsterau dysgu a/neu anableddau
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Sgiliau cyflwyno da
- Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da
- Cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (os nad yw'r cymhwyster gennych bydd disgwyl i chi gwblhau'r cwrs o fewn 2 flynedd i gael eich penodi)
- Codi a Chario (Os nad oes gennych gymhwyster mewn codi a chario, bydd disgwyl i chi ymgymryd â'r hyfforddiant hwn cyn gynted â phosibl)
- Tystysgrif Diogelwch Bwyd (Os nad oes gennych gymhwyster mewn Diogelwch bwyd, bydd disgwyl i chi ymgymryd â'r hyfforddiant hwn cyn gynted â phosibl)
- Cymhwyster Iaith Arwyddion Prydain neu unrhyw gymhwyster cyfathrebu arall
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein