MANYLION
  • Lleoliad: Garth Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Garth - Gwasanaethau Arlwyo

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Garth - Gwasanaethau Arlwyo
Disgrifiad swydd
12.5 oriau yr wythnos  

Trefnir oriau gwaith rhwng 10am a 2pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor yn unig.  

Yn ystod tymor yr ysgol  

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod fel Cogydd Cynorthwyol.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo'r cogydd i baratoi prydau bwyd ysgol. Byddwch yn cynorthwyo wrth hyfforddi a threfnu staff a byddai gwybodaeth am weithdrefnau gweinyddu cegin yn fantais.

Bydd disgwyl i chi gyflenwi ar gyfer y Cogydd yn ei absenoldeb a chyflenwi mewn ysgolion eraill yn y Fwrdeistref Sirol. Mae angen Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd ar gyfer y swydd hon. Darperir hyfforddiant os bydd angen. 

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon. 

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.  

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon. 

Dyddiad Cau: 22 Mai 2024

Llunio'r rhestr fer: 23 Mai 2024

Cyfweliadau: 3 Mehefin 2024 

Manteision gweithio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person