MANYLION
  • Lleoliad: Heronsbridge,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth yr Adran Ymadawyr - Ysgol Heronsbridge

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Pennaeth yr Adran Ymadawyr - Ysgol Heronsbridge
Disgrifiad swydd
Graddfa Gyflog Athrawon ynghyd â TLR1A ac ADY 2

I ddechrau: Medi 2024

Mae Llywodraethwyr Ysgol Heronsbridge yn dymuno penodi athro/athrawes llawn cymhelliant, gofalgar, ymrwymedig a brwdfrydig â phrofiad sylweddol o addysgu mewn ysgolion ADY i arwain adran fawr mewn ysgol arbennig â dilyniant oedran. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth gyda dealltwriaeth o'r cwricwlwm Ôl-16, yn meddu ar brofiad rheoli ac wedi dysgu plant ag anableddau dysgu difrifol gan gynnwys y rhai ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig. Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n gallu:

Cyflawni rhaglen briodol o addysgu yn unol â dyletswyddau athro/athrawes graddfa safonol

Rheoli'r adran o ddydd i ddydd

Codi safonau cyrhaeddiad a chyflawniad disgyblion yn y maes cwricwlwm cyfan a monitro a chynorthwyo cynnydd disgyblion

Bod yn atebol am gynnydd a datblygiad disgyblion yn y meysydd pwnc

Datblygu a gwella arfer addysgu eraill

Darparu cwricwlwm eang, cytbwys, perthnasol ac wedi'i wahaniaethu i ddisgyblion sy'n astudio yn yr adran, yn unol â nodau'r ysgol a'r polisïau cwricwlaidd a benderfynwyd gan y Corff Llywodraethu a'r Pennaeth

Bod yn atebol am arwain, rheoli a datblygu’r cwricwlwm, gan gefnogi datblygu a gwireddu Cwricwlwm Cymru

Rheoli a defnyddio staff addysgu/cymorth, adnoddau ariannol a ffisegol yn yr adran yn effeithiol i gynorthwyo'r cynllun gwella ysgol a'r cynllun datblygu adrannol

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 30 Mai 2024

Rhestr fer: 10 Mehefin 2024

Dyddiad Cyfweliad: 22 Mehefin 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person