MANYLION
  • Lleoliad: Brackla Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Bracla

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Bracla
Disgrifiad swydd
Ar gyfer mis Medi 2024

Ystod ISR 9-13

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Bracla yn ceisio penodi unigolyn ymroddedig ac angerddol, sy'n rhannu ein gweledigaeth a'n gwerthoedd i ymuno â'n tîm arwain fel Dirprwy Bennaeth o fis Medi 2024. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan ganolog wrth lunio cyfeiriad ein hysgol ar gyfer y dyfodol, gan gyfrannu at ein llwyddiant a'n datblygiad parhaus.

Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n meddu ar:

Sgiliau arweinyddiaeth a rheoli amlwg ar lefel strategol, gyda ffocws di-baid ar arwain i wella ansawdd addysg i'r holl ddisgyblion a datblygiad proffesiynol yr holl staff;

Y brwdfrydedd, yr egni a'r gallu i gymell, herio a chefnogi ein cymuned ysgol gyfan;

Sgiliau trefnu, rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol;

Gwybodaeth a dealltwriaeth gref o addysgeg a'r cwricwlwm;

Yn ymarferydd rhagorol gyda disgwyliadau uchel o lesiant, ymddygiad a chyrhaeddiad disgyblion;

Agwedd gadarnhaol tuag at arloesi a newid.

Yn Ysgol Gynradd Bracla, gallwn gynnig:

Plant hapus, brwdfrydig sy'n ymddwyn yn dda iawn sy'n awyddus i ddysgu ac sy'n bleser i'w haddysgu;

Amgylchedd croesawgar a meithringar lle mae pob aelod o'n cymuned ysgol yn cael ei werthfawrogi;

Ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol a'ch llesiant;

Tîm o staff proffesiynol, gweithgar a llawn cymhelliant, sy'n angerddol am ddatblygu a chodi safonau;

Perthnasoedd cadarnhaol gyda'n teuluoedd a'r Corff Llywodraethu.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dylai ymgeiswyr a ddewisir am gyfweliad gysylltu â'r Pennaeth i drefnu ymweliad i weld yr ysgol.

Dyddiad Cau: 31 Mai 2024

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 06 Mehefin 2024

Dyddiadau'r cyfweliad: 25 Mehefin 2024 a 26 Mehefin 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person