MANYLION
  • Lleoliad: Cyfreithiol,
  • Testun:
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hyfforddwr Arddangoswr Aero CC/2575

Hyfforddwr Arddangoswr Aero CC/2575

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Hyfforddwr Arddangoswr Aero

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser

Cyflog: £24,590 - £28,477

Ydych chi'n Beiriannydd Medrus sy'n awyddus i rannu eich arbenigedd a'ch sgiliau ymarferol gyda'n myfyrwyr? Os felly, mae Coleg Cambria yn chwilio am Hyfforddwr Arddangoswr mewn Aero i weithio ar ein safle Glannau Dyfrdwy.

Fel Hyfforddwr Arddangoswr, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno sesiynau ymarferol mewn Peirianneg yn bennaf i'n myfyrwyr yn Sefydliad Technoleg o'r radd flaenaf Coleg Cambria. Byddwch yn gyfrifol am baratoi amserlen o weithgareddau ymarferol o wybodaeth gan Gyfarwyddwyr Cwricwlwm a Darlithwyr yn ogystal â rhoi cymorth wrth fonitro cynnydd myfyrwyr. Bydd yr Hyfforddwr Arddangoswr yn cynorthwyo gydag asesu cymhwysedd a chynnydd myfyrwyr mewn gweithgareddau ymarferol hefyd. Byddwch yn gyfrifol am osod a chynnal a chadw amgylcheddau gwaith ac offer arbenigol yn rhagweithiol i alluogi darpariaeth i'n dysgwyr. Bydd gofyn i chi gwblhau cofnodion diweddar, cynorthwyo gydag adolygiadau myfyrwyr yn ogystal â chynhyrchu canlyniadau cyrsiau.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad diweddar yn y diwydiant peirianneg (mecanyddol neu electroneg neu gynnal a chadw). Yn ddelfrydol bydd ganddynt brofiad o ddarparu hyfforddiant ymarferol neu weithdy. Dylech allu dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun. Fel Hyfforddwr Arddangoswr bydd gennych sgiliau rhyngbersonol ardderchog ac yn gallu creu amgylchedd gofalgar a chefnogol i'n myfyrwyr.

Gofynion Hanfodol
  • Mae'n rhaid bod gennych o leiaf gymhwyster Lefel 3 mewn Peirianneg neu gymhwyster cyfwerth mewn maes pwnc perthnasol.
  • Profiad diweddar yn y diwydiant mewn maes arbenigol perthnasol.
  • Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hunan a sut y byddwch yn sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn.
  • Gallu defnyddio Microsoft Office a phecynnau TGCh eraill.
  • Hunanhyder ac yn dangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu.
  • Gallu sefydlu perthnasau gweithio effeithiol ac yn aelod cadarn o dîm

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swydd yn gynnar pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Dull Gweithio Hyblyg - hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith i gefnogi a gwella llesiant gweithwyr

Gwyliau Hael - 41 gan gynnwys gŵyl y banc a'r cyfnod o gau dros y Nadolig (tua 10 diwrnod)

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Ardderchog / Pensiwn Athrawon

Defnyddio hwb buddion cambria - mae hwn yn cynnwys arbedion cludiant, siopa, bwyta allan, iechyd a harddwch. Yn ogystal â chynllun beicio i'r gwaith

Mynediad at ystod eang o raglenni E-ddysgu a Datblygiad Proffesiynol - o dan y Cynllun Datblygu Cyflogwr, mae staff yn gymwys am ostyngiad ar unrhyw gwrs gwerth hyd at £195.

Aelodaeth ratach i ystafelloedd ffitrwydd

Cyfleusterau Chwaraeon a Ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Triniaethau Harddwch a Thrin Gwallt Rhatach

Caffi a bwyty ar y safle

Darpariaeth Meithrinfa ar safle Glannau Dyfrdwy

Rhaglen Gymorth i Weithwyr yn ogystal â chymorthyddion cyntaf iechyd meddwl ar bob safle

Gwobrau Hir-wasanaeth